Derbyn Ian Woosnam i Oriel Anfarwolion y byd golff

  • Cyhoeddwyd
Woosnam green jacketFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ian Woosnam yn ennill Meistri America yn 1991

Mae'r Cymro Ian Woosnam wedi cael ei dderbyn i Oriel Anfarwolion y byd golff.

Fe drodd Woosnam yn broffesiynol yn 1976, a bu ar frig rhestr detholion y byd golff yn 1991 a 1992.

Uchafbwynt ei yrfa oedd ennill Pencampwriaeth Meistri America yn Augusta yn 1991.

Ers ennill ei bencampwriaeth gyntaf - Meistri'r Swistir yn 1982 - mae'r golffiwr wedi cipio 46 o bencampwriaethau ar draws y byd, gan gynnwys 30 ar gylchdeithiau'r PGA ac Ewrop.

Mae wedi ennill mwy o bencampwriaethau na'r un golffiwr gwrywaidd o Brydain, ac wrth iddo gael ei dderbyn i'r Oriel daeth teyrnged gan neb llai nag un arall o fawrion y gamp, Jack Nicklaus.

"Roeddwn i wastad yn hoffi chwarae gyda Woosie," meddai. "Mae'n gymeriad hoffus ac mae'n braf i'w gael yn ein plith.

"Yn sicr mae'n haeddu'i le yn yr Oriel, ac mae wedi cynrychioli Cymru ar draws y byd."

Yn ogystal â'i orchestion unigol, bu'n aelod o dîm Cwpan Ryder Ewrop ar wyth achlysur, ac roedd yn gapten ar Dîm Ewrop pan roddon nhw grasfa i America - 18½-9½ - yn y K Club yn Nulyn yn 2006.

Cafodd ei enwi'n chwaraewr gorau Ewrop ddwywaith, ac yn 2006 fe dderbyniodd yr OBE i gydnabod ei gyfraniad i fyd golff.