Heddlu'n arestio 'troseddwr rhyw difrifol' o Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi arestio gyrrwr tacsi o Abertawe gafodd ei ganfod yn euog o nifer o droseddau rhyw, ond a fethodd ymddangos yn y llys.
Cadarnhaodd Heddlu'r De eu bod nhw wedi arestio David Hart mewn tŷ yn Nhreforys nos Fercher.
Roedd disgwyl i Hart ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth ar ddiwedd gwrandawiad llys wnaeth bara chwe diwrnod, ond doedd o ddim yno.
Roedd ei ddioddefwr yn ferch 11 neu 12 oed ac fe gafodd ei cham-drin am gyfnod o 14 mlynedd.
Cafodd Hart ei ganfod yn euog o 16 cyhuddiad ddydd Mawrth oedd yn cynnwys treisio, ymosodiad anweddus ac ymosodiad wnaeth achosi gwir niwed corfforol.
'Casáu fy hun'
Dywedodd y barnwr Geraint Walters fod y dioddefwr wedi disgrifio rhai "troseddau rhyw difrifol iawn".
Wrth ohirio'r dyfarniad dywedodd y byddai Hart yn wynebu "nifer o flynyddoedd" yn y carchar.
Yn ystod y gwrandawiad clywodd y llys bod rhywfaint o'r gamdriniaeth yn digwydd o flaen camera gyda channoedd o bobl weithiau'n gwylio ar y we.
Mewn datganiadau gan y dioddefwr fe ddisgrifiodd sut roedd y gamdriniaeth wedi achosi poen sylweddol iddi.
Roedd hi hefyd yn honni efallai fod y gyrrwr tacsi wedi rhoi cyffuriau heb yn wybod iddi.
Dywedodd wrth swyddog heddlu: "Dw i'n beio fy hun. Nes i byth ddigon i'w atal. Roedd yna gyfleoedd i'w atal ond roeddwn i'n rhy ofnus.
"Dw i'n casáu fy hun. Dw i wedi ffeiddio fy mod i wedi gadael iddo wneud y pethau yma."
Yn ôl y barnwr roedd ymddygiad fel hyn yn "amlwg yn mynd i adael effaith seicolegol barhaol. Does dim modd i rywun ddioddef ymddygiad fel hyn heb oblygiadau sydd yn mynd i newid ei bywyd."
Clywodd y llys mai'r gred oedd bod Hart wedi mynd i Ysbyty Treforys ond dywedodd yr heddlu nad oedd o yno.
Ar ôl i Hart fethu ac ymddangos yn y llys ar ddiwedd yr achos, fe wnaeth Heddlu'r De gyhoeddi gwarant ar ei gyfer gan ddweud bod dod o hyd iddo yn flaenoriaeth iddyn nhw.