Ysgolion 'angen help' i allu cefnogi disgyblion traws

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Yn ôl Andrew White o Stonewall, mae dau o bob pump person ifanc traws wedi ceisio lladd eu hunain

Mae elusen wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o gefnogaeth i athrawon er mwyn iddyn nhw wybod sut mae cefnogi disgyblion trawsryweddol.

Yn ôl Stonewall Cymru, mae angen creu canllawiau clir i bob ysgol a chynnig hyfforddiant i athrawon.

Mae adroddiad newydd gan yr elusen, dolen allanol yn dangos bod dau o bob pum person ifanc traws wedi ceisio lladd eu hunain.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ymrwymo "i ddod o hyd i ffyrdd gwell a mwy effeithiol o fesur a gwella lles disgyblion".

'Ddim yn cael ei drafod'

Cafodd Edward Jones, sydd newydd raddio o Brifysgol Aberystwyth, ei eni'n ferch.

Er ei fod eisoes yn gwybod ei fod eisiau byw fel dyn tra yn yr ysgol, doedd ddim yn teimlo'n ddigon hyderus i wneud hynny tan iddo fynd i'r brifysgol.

"Doedd e ddim yn bwnc oedd yn cael ei drafod yn yr ysgol," meddai'r cyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Rhydfelen, Pontypridd.

Disgrifiad,

Mae Edward Jones yn dweud y byddai wedi hoffi cael mwy o gefnogaeth yn yr ysgol

"Mae wedi cymryd tair blynedd o fod yn y brifysgol... i fod yn hyderus am bwy ydw i.

"Ond jobyn yr ysgol yw e i gael pobl ifanc yn hyderus, i fod yn falch o bwy ydyn nhw."

'Normaleiddio'r gymuned'

Yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Caerdydd, mae prosiect Digon yn ceisio mynd i'r afael â homoffobia a chynyddu'r ymwybyddiaeth am faterion pobl traws ymysg disgyblion ac athrawon.

Dywedodd y dirprwy bennaeth, Catrin Pallot, bod y prosiect yn golygu bod "y gymuned LGBT+ wedi cael ei normaleiddio'n llwyr yn yr ysgol".

Ond dywedodd hefyd bod yr ysgol "wedi gorfod gwneud llawer o'r gwaith ein hunain", gan gynnwys cysylltu ag elusennau.

Disgrifiad o’r llun,

Byddai mwy o ganllawiau o fudd i ysgolion, yn ôl Catrin Pallot

Byddai ysgolion yn elwa o gael canllawiau eglur ar sut i helpu disgyblion traws, meddai.

"Beth fyddai'n dda ydy y byddai 'na rywbeth canolig fyddai, falle, yn gallu dod gan weithgor o bobl fyddai'n deall y sefyllfa 'ma, ac yn arbennig gan weithgor o bobl ifanc sydd wedi bod drwyddi ac yn gallu dweud be' fyddai wedi'u helpu nhw fwyfwy."

Darpariaeth 'amrywiol'

Dywedodd Andrew White, cyfarwyddwyr Stonewall Cymru, bod y ddarpariaeth i ddisgyblion traws yn ysgolion Cymru yn "amrywiol iawn".

"'Dyn ni'n gwybod mewn ysgolion lle maen nhw'n cael e'n iawn, mae disgyblion traws yn teimlo'n fwy diogel," meddai.

Gan nodi mai "athrawon yw'r adnodd mwyaf amhrisiadwy sydd gan unrhyw ysgol", dywedodd Mr White bod nifer o blant traws yn troi at athro cyn unrhyw oedolyn arall.

Disgrifiad o’r llun,

Mae prosiect Digon yn Ysgol Plasmawr wedi bod yn llwyddiant, yn ôl y dirprwy bennaeth

Dywedodd bod angen hyfforddiant i athrawon i ddelio â sefyllfa o'r fath, ynghyd â chanllawiau.

"Mae'r canllawiau ni'n gofyn amdanyn nhw yn ganllawiau i'w harfogi nhw, i ganiatáu nhw i siarad am y peth... mae rhai athrawon yn meddwl eu bod nhw ddim yn cael siarad am hunaniaeth rhywedd, heb sôn am wybod sut mae gwneud e."

'Gwella lles'

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda sefydliadau gwahanol gyda'r "nod o gefnogi disgyblion traws yn fwy effeithiol".

Ychwanegodd llefarydd: "Mae'r cynllun gweithredu addysg gafodd ei gyhoeddi'r wythnos hon yn ein hymrwymo i ddod o hyd i ffyrdd gwell a mwy effeithiol o fesur a gwella lles disgyblion."