Cau pedair theatr dros dro yn Ysbyty Maelor Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae pedair theatr yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi eu cau dros dro o ganlyniad i bryderon am y system awyru yno.
Mae dwy theatr endosgopi a dwy theatr ddydd wedi eu cau dros dro, ac mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dweud y bydd yn effeithio ar rai achosion dydd.
Dywedodd Nigel Lee, Cyfarwyddwr gofal eilaidd y bwrdd iechyd: "Mae'r cam wedi ei gymryd fel mesur rheoli wedi i brofion gafodd eu cynnal ar ein system awyru ddod o hyd i anghysonderau yn y ffordd mae awyr yn cael ei drosglwyddo drwy'r theatrau.
"Does yna ddim tystiolaeth glinigol ar hyn o bryd i godi pryderon am ein triniaethau llawfeddygol neu ymchwiliol.
Effaith ar driniaethau
"Rydyn ni nawr yn edrych ar ffyrdd eraill o ddarparu gwasanaethau fyddai wedi cael eu cynnal yn ein theatrau ni.
"Yn anochel, mae hyn yn effeithio ar nifer y triniaethau dydd y gallwn ni eu cynnal yn y byr dymor.
"Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau'r effaith, a bydd y flaenoriaeth i'r cleifion sydd angen gofal brys yn parhau.
"Bydd triniaethau llawfeddygol ac ymchwiliol yn parhau yn y gofod theatr sydd ar gael yn yr ysbyty."