Trethi newydd a mwy o arian i iechyd yn y gyllideb
- Cyhoeddwyd
Mae £450m ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth iechyd dros gyfnod o ddwy flynedd yng nghyllideb ddrafft gwerth £15bn Llywodraeth Cymru.
Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford y bydd trethi uwch hefyd yn cael eu cyflwyno ar gyfer tai sy'n cael eu gwerthu am fwy na £400,000.
Hwn yw'r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru gael yr hawl i godi trethi, ac yng Nghymru fe fydd y dreth tirlenwi a'r dreth trafodion tir yn disodli'r dreth stamp.
Mae'r ddogfen hefyd yn cynnwys arian i godi 20,000 o dai newydd a gorsaf drenau newydd.
Newid treth ar brynu tai
Bydd y rhan fwyaf o bobl sy'n prynu tai yng Nghymru yn talu llai neu'r un faint mewn trethi dan y fersiwn newydd o'r dreth stamp, yn ôl y llywodraeth.
Ni fydd treth ar dai sy'n costio hyd at £150,000 o'r flwyddyn nesaf ymlaen, fel rhan o'r Dreth Trafodion Tir.
Beth mae'r dreth newydd yn ei olygu?
O dan yr hen system byddai prynwr tŷ am y pris cyfartalog yng Nghymru, £150,846, yn talu £516.92 mewn treth.
Dan y dreth newydd, byddai'r prynwr yn talu £21.15.
Ond i gartref werth £500,000 byddai'r system newydd yn golygu talu £17,500 o dreth yn hytrach na £15,000.
Ond bydd pobl sy'n prynu tai am dros £400,000 yn gorfod talu mwy o dreth dan y system newydd.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd cynyddu'r uchafswm heb dalu treth o £125,000 i £150,000 yn arbed £500 i'r tŷ arferol.
Dywedodd Mr Drakeford i'r gyllideb gael ei llunio dan gysgod polisi llymder llywodraeth Geidwadol y DU a'i fod "yn golygu ein bod yn parhau i wynebu toriadau i'n cyllideb".
"Erbyn diwedd y ddegawd, bydd wedi cael ei thorri 7% mewn termau real ers 2010 - sef £1.2bn yn llai i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol," meddai.
Er y pwerau newydd i godi trethi, mae rhan helaeth arian Cymru yn dod o'r Trysorlys.
Arian i gartrefi a gorsaf drenau
Fe fydd y gwasanaeth iechyd yn derbyn £230m yn 2018-19 a £220m yn 2019-20 yn ôl y cyhoeddiad ddydd Mawrth.
Mae'r ddogfen hefyd yn cynnwys £340m ar gyfer cynllun i godi 20,000 o gartrefi newydd a £50m ar gyfer gorsaf drenau newydd yn Llanwern, Casnewydd.
O ganlyniad i bwerau newydd mae gan Lywodraeth Cymru nawr yr hawl hefyd i fenthyg arian.
Mae disgwyl i'r gyllideb gael ei phasio pan fydd y Cynulliad yn pleidleisio arni yn sgil cytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru.
Yn ôl y fargen gwerth £210m, bydd mwy ar o wario ar ofal iechyd meddwl ac ar hyfforddi meddygon yn y gogledd.
Fe fydd Plaid Cymru yn atal eu pleidlais pan fydd y ddogfen yn mynd gerbron Aelodau Cynulliad, gan olygu y bydd gan y llywodraeth fwyafrif clir.
'Cytundeb stafell gefn'
Dywedodd y Ceidwadwyr brynhawn Mawrth mai'r gyllideb hon "ydy'r diweddaraf mewn cyfres hir o gytundebau stafell gefn rhagweladwy rhwng y cenedlaetholwyr a Llafur".
Ychwanegodd eu llefarydd cyllid, Nick Ramsay, bod "cyfle wedi'i fethu" i ddelio â thanfuddsoddi yn y gwasanaeth iechyd, a bod Llafur a Phlaid Cymru wedi "torri nifer o addewidion" er mwyn taro'u bargen.
Dywedodd Plaid Cymru bydd "cymunedau ym mhob rhan o Gymru" yn elwa o'u cytundeb â Llafur.
Ond yn ôl eu llefarydd cyllid, Adam Price, mae Llafur hefyd wedi mynd yn groes i'w maniffesto drwy beidio cael gwared â'r cap ar gyflogau'r sector gyhoeddus ac atal cynnydd mewn ffioedd dysgu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2017