Disgwyl datgelu manylion cyllideb ddrafft Cymru

  • Cyhoeddwyd
arian newydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cyfanswm yr arian fydd adrannau gwahanol y llywodraeth yn ei gael yn dod i'r amlwg ddydd Mawrth

Fe fydd cynlluniau ar wario tua £15bn yn cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach pan fydd Llywodraeth Cymru yn amlinellu ei chyllideb ddrafft.

Am y tro cyntaf, fe fydd y gyllideb yn cynnwys cyfraddau a bandiau ar gyfer dwy dreth newydd i'w talu o fis Ebrill 2018.

Mae gan weinidogion bwerau dros dreth tirlenwi a'r dreth trafodion tir, sydd wedi disodli'r dreth stamp yng Nghymru.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, ei fod wedi ceisio blaenoriaethu addewidion i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy a chynnig gofal plant i rieni yn rhad ac am ddim, ond ei fod hefyd eisiau "amddiffyn" gwasanaethau rhag toriadau.

Cafodd y gyllideb ei llunio wedi i'r llywodraeth Lafur ddod i gytundeb â Phlaid Cymru, fydd yn cefnogi'r ddogfen yn y Cynulliad. Dywedodd y Ceidwadwyr ddydd Mawrth bod Plaid Cymru wedi cytuno i'r fargen yn rhy hawdd.

'Carreg filltir bwysig'

Fe fydd cyfanswm cyllideb bob adran yn cael eu cyhoeddi heddiw, ond ni fydd dadansoddiad manwl o'r gwariant ar gael tan ddiwedd y mis.

Yn ogystal â threthi, mae gan y llywodraeth yr hawl i fenthyg arian - "carreg filltir bwysig" yn hanes datganoli, meddai Mr Drakeford.

Bydd rhai pwerau dros dreth incwm hefyd yn cael eu datganoli yn 2019.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Mark Drakeford, nod y llywodraeth yw "ceisio diogelu" y pethau "sy'n bwysig i bobl"

Yn ôl adroddiad diweddar gan Brifysgol Caerdydd, mae'r ymrwymiad i ddiogelu'r gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol ac ysgolion wedi rhoi gwasanaethau eraill dan fwy o bwysau.

Ond fe ddywedodd Mr Drakeford: "Dwi ddim yn meddwl ei bod yn synhwyrol meddwl am y gyllideb fel dewis rhwng gwahanol wasanaethau.

"Ein nod yw meddwl beth sy'n bwysig i bobl yng Nghymru ac yna i geisio diogelu popeth sydd eu hangen arnynt, hyd yn oed dan amgylchiadau anodd."

Cwestiynau am agwedd M4?

Fore Mawrth, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, bod Plaid Cymru wedi taro'r fargen heb gael llawer yn ôl.

Fe ddywedodd hefyd bod y fargen - sydd werth £210m dros ddwy flynedd - yn "codi cwestiynau" am agwedd Plaid Cymru tuag at lôn newydd ar yr M4, gan y byddai "arian sylweddol" o'r gyllideb yn mynd tuag at y prosiect hwnnw, pe bai'n cael ei gymeradwyo.

Mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu'r cynllun mae'r llywodraeth yn ei ffafrio, sy'n cael ei adnabod fel y llwybr du.

Ond dywedodd AC Plaid, Rhun ap Iorwerth, y byddai ei blaid yn gwrthwynebu "ystod eang o elfennau o'r gyllideb" er y fargen.

Ychwanegodd nad ydy ei blaid yn ymwybodol o gynnwys y gyllideb i gyd ac mai "nid dyna sut mae trafodaethau cyn y gyllideb yn gweithio."

Mae'r cytundeb rhwng y ddwy blaid yn cynnwys addewid i wario mwy ar ofal iechyd meddwl ac ar hyfforddi meddygon yn y gogledd.