Bale allan o gemau Georgia ac Iwerddon gydag anaf i'w goes
- Cyhoeddwyd
Mae Gareth Bale allan o'r ddwy gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Georgia nos Wener, 6 Hydref, a Gweriniaeth Iwerddon ar nos Lun 9 Hydref.
Mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru wedi cadarnhau'r newyddion mewn datganiad na fydd Bale yn holliach.
Fe wnaeth Bale ddioddef anaf i'w goes wrth chwarae i'w glwb Real Madrid yng Nghynghrair y Pencampwyr yn erbyn Borussia Dortmund nos Fawrth.
Mae Cymru yn ail yng Ngrŵp D gyda 14 o bwyntiau, pedwar pwynt y tu ôl i Serbia sydd ar y brig.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Sgan ar ei goes
Fe wnaeth Bale gyrraedd Caerdydd ddydd Sul i ymuno â gweddill y garfan cyn mynd i ginio Gwobrau Pêl-droed Cymru nos Lun.
Ni wnaeth chwarae i Real Madrid yn eu gêm yn erbyn Espanyol dros y penwythnos.
Ond yn dilyn trafodaeth gyda Real Madrid, fe gafodd ei anfon am sgan ar ei goes, ac yn dilyn hynny daeth y newyddion na fydd ar gael i'r un o'r ddwy gêm.
Mae Cymru wedi galw Tom Bradshaw o glwb Barnsley i'r garfan yn ei le.
Yn ôl golwr Cymru, Owain Fôn Williams fe fydd Bale yn golled fawr i'r tîm ond mae digon o chwaraewyr eraill yn y garfan allai gamu i'r adwy.
"Mae'n mynd i fod yn gyfle i bwy bynnag sy'n chwarae yna, os ydy o am roi Hal [Robson-Kanu] yna, neu os 'di o'n mynd i chwarae Ben [Woodburn] neu Tom [Lawrence]," meddai wrth BBC Cymru Fyw.
"Mae 'na ddigon o opsiynau yna, ond does na'm doubt ti'n mynd i golli Bale, does dim dwywaith am hynny."
Ychwanegodd: "Mae'n gallu 'neud unrhyw beth ar y cae 'na pan mae o'n ffit, felly yn sicr 'dan ni'n mynd i golli hynny - 'dan ni'n siarad am Gareth Bale a Chymru'n ei golli o, ac mae hynny'n anferth i ni fel gwlad.
"Ond mi gafon ni ganlyniad go lew yn Serbia yn yr haf a doedd o'm yn chwarae honno, felly mae'n dangos i chdi fod genna ni ddyfnder yn y garfan a hogiau'n gallu camu mewn i'w safle fo."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd30 Medi 2017
- Cyhoeddwyd28 Medi 2017