Bod yn gerddor ac yn fam

  • Cyhoeddwyd

Mae Gwenno Saunders yn gerddor llwyddiannus ac yn fam i fab ifanc, ac eisiau mwy o drafod ynglŷn â'r heriau o gyfuno'r ddwy swydd.

Bydd hi'n llywio'r sgwrs More Baby in my Monitors Please, gydag Emma Daman Thomas a Lisa Jên Brown yng nghanolfan Chapter, Caerdydd, ddydd Sadwrn 7 Hydref, fel rhan o gynhadledd The Future is Female, dolen allanol.

Ffynhonnell y llun, DANI REID PHOTOGRAPHY

Bob tro dwi'n cwrdd â mam neu dad arall ar daith ac yn rhannu profiadau, dwi'n meddwl gymaint dwi'n i'n ei werthfawrogi e. Mae'n gallu bod yn rhywbeth daunting iawn pan ti'n cael babi pan mae dy swydd di'n ymwneud â lot o deithio, felly mae'n grêt gallu cael y cyfle i siarad â rhywun sy'n deall.

Yn y byd cerddorol, tydi trafod bod yn fam (neu'n dad) sy'n artist ddim yn beth mor gyhoeddus â 'ny. Mae'r diwydiant cerddorol wedi, a dal yn, cael ei ddominyddu gan ddynion. Er bod menywod yn gwerthu lot o records, mae'r rhai sy'n rheoli'r sioe yn ddynion, mae'r hyrwyddwyr yn ddynion, y bobl sy'n rhedeg y lleoliadau yn ddynion... ond mae lot ohonyn nhw'n rieni hefyd.

Dwi'n meddwl ei fod e'n syniad da i greu rhyw fath o rwydwaith i annog mwy o rieni sy'n gwneud cerddoriaeth, neu ofalwyr, ei fod e'n bosib gwneud y ddau.

Siarad o brofiad

Mae'n mab i, Nico, bron yn ddwy. O'n i'n lwcus iawn - ges i feichiogrwydd digon dymunol. Y peth mwya' oedd yr ofn bod cael plentyn am fy stopio i rhag gwneud unrhywbeth arall. Ges i lot o anogaeth, bod yna lot o artistiaid benywaidd eraill yng Nghymru wedi ei 'neud e o 'mlaen i ac wedi cadw i deithio a chadw'n brysur.

'Naethon ni - fi a ngŵr - lwyth o deithio 'da fe yn y flwyddyn gynta'. Pan ti'n artist ac yn teithio, does gen ti ddim yr arian, o reidrwydd, i gael llwyth o bobl i dy helpu di. Mae'n rhaid i ti weithio ma's yn ymarferol be' sy'n bosib ar gyllid fwy realistig o fach, ond bo' ti dal yn gallu cadw i deithio a chwarae dy gerddoriaeth.

O mhrofiad i, 'swn i ddim wedi gallu gwneud heb gefnogaeth ac amser y gŵr. Ond mae rhai yn gorfod gwneud ar eu pen eu hunain.

Trafod, dysgu a rhannu

Y syniad yw i greu fforwm i bobl cael trafod, dysgu a rhannu profiade, ac mae profiade pawb yn wahanol. Mae beichiogrwydd, a bod yn rhiant, yn gallu bod yn anodd, felly 'dyn ni eisiau clywed profiadau pobl gwahanol a demystifyo'r peth a'i droi yn rhywbeth allai helpu.

Pethe' ymarferol fel trafod pa venues sy'n gweithio i blant, a'r rhai sydd ddim. Efallai bod rhai venues sy'n well eu hosgoi pan mae'r plentyn bach yn hŷn achos fod dim llawer o le. Neu ddulliau ymarferol o deithio o gwmpas yr UDA - mae hwnna'n lle anferthol, a dysgon ni'r ffordd anodd ei fod e ddim y peth mwyaf ymarferol i'w wneud!

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwenno wedi cael llwyddiant yng Nghymru a thu hwnt

Torri'r waliau

Dwi wedi cael profiad hynod bositif. Mae'r math o gerddoriaeth dwi'n ei 'neud yn gerddoriaeth i bobl o bob oedran, felly dwi'n dueddol o chwarae mewn gwyliau lle mae lot o blant o gwmpas 'ta beth, felly mae'n siwtio dod â phlentyn. Oherwydd mod i wedi cael profiad mor bositif, byddai'n grêt gallu rhannu hynny efo pobl eraill, a thrafod be' sy'n anodd.

Dwi 'di ffeindio fod fy swydd wedi gweithio ma's yn iawn i mi gyda phlentyn ifanc. 'Sen i'm yn gallu mynd â fe mewn i'r swyddfa, ond dwi yn gallu dod â fe mewn i'r gwaith dwi'n ei 'neud.

I mi, mae e am beidio gwahanu'r ddau fyd. Mae bod yn gerddor ac yn artist yn rhan o dy fywyd di a dyna pwy wyt ti. Mae ambwyti torri'r waliau 'na lawr rhwng ardaloedd gwahanol o dy fywyd di a'i fod e i gyd yn rhan o'r un peth.

Mae hynny i'w ddathlu ac mae angen ei annog e fwy. A beth bynnag, mae e wastad yn dda i gael plant o gwmpas, achos mae pawb wedyn yn gorfod bihafio!