Sir Gâr: Gwrthod cynnig i godi cwt i ddal 32,000 o ieir
- Cyhoeddwyd
Mae pwyllgor yn Sir Gâr wedi gwrthod cais i godi cwt i 32,000 o gywion ieir yn Llangadog.
Roedd y cynlluniau ar fferm Godre Garreg yn ddadleuol, gydag un pentrefwr yn dweud eu bod wedi "rhannu'r gymuned".
Argymhelliad swyddogion cynllunio'r sir oedd cymeradwyo'r cais.
Ond fe bleidleisiodd y pwyllgor cynllunio ddydd Mawrth yn erbyn y cynlluniau. Roedd naw cynghorydd yn erbyn, un o blaid, gyda dau yn atal eu pleidlais.
Bwriad fferm Godre Garreg oedd adeiladu cwt 140m mewn hyd gydag uchder o 7m. Fe fyddai wedi bod yn gartref i ieir buarth.
Roedd pryderon wedi cael eu codi'n lleol am safle'r cwt, gyda rhai'n dweud y byddai wedi bod yn rhy agos i ganol y pentre'.
Dywedodd cyn-gynghorydd ei fod yn pryderu am y traffig posib, ynghyd â'r gwastraff a'r arogl.
Roedd degau wedi ysgrifennu at y cyngor sir i ddatgan eu gwrthwynebiad, gyda'r cyngor cymuned lleol hefyd yn gwrthwynebu.
Aeth aelodau'r pwyllgor cynllunio i ymweld â'r safle fore Mawrth cyn ailymgynnull i bleidleisio ar y mater.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2017