Dadorchuddio cofeb i arwr Rhyfel Byd Cyntaf o Geredigion
- Cyhoeddwyd
Cafodd carreg goffa ei dadorchuddio brynhawn dydd Mercher i gofio am yr unig filwr o Geredigion yn y Rhyfel Byd Cyntaf i gael Croes Victoria.
Roedd Lewis Pugh Evans yn ymladd yng Ngwlad Belg ar 4 Hydref 1917 pan lwyddodd i gipio safle gwn peiriant.
Cafodd y milwr ei anafu, ond fe frwydrodd ymlaen ac arwain ei filwyr i ail darged.
Ganrif yn ddiweddarach mae cofeb iddo wedi cael ei chreu yn nhref Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth, ei dref enedigol.
Cafodd Lewis Pugh Evans ei ddyrchafu i fod yn Frigadydd, a chael ei anrhydeddu sawl gwaith yn ystod y rhyfel.
Roedd yn arwain Bataliwn Cyntaf Catrawd Sir Lincoln pan enillodd Groes Fictoria am ei ddewrder.
Yn ôl y cofnodion roedd wedi sylwi ar safle gwn peiriant oedd yn lladd ac anafu nifer o filwyr, ac fe redodd tuag ato gan danio'i wn a'u gorfodi i ildio.
Er iddo gael ei anafu'n wael fe wrthododd driniaeth, ac arwain gweddill ei filwyr i gipio safle arall cyn disgyn oherwydd iddo golli cymaint o waed.
'Dyn lwcus'
Dywedodd ei ŵyr, Christopher Evans: "Roedd fy nhaid yn dweud ei fod yn ddyn lwcus, lwcus i oroesi'r rhyfel a lwcus i gael ei ddewis a'i anrhydeddu gyda Chroes Fictoria, er mod i'n credu ei fod o'n meddwl fod eraill wedi mynd y tu hwnt i'r galw na chafodd eu hanrhydeddu.
"Er iddo farw dros 50 mlynedd yn ôl mae'n rhaid bod sawl un sy'n ei gofio. Dwi'n gobeithio y bydd cynifer ohonyn nhw â phosib yn mynychu'r digwyddiad."
Dywedodd arweinydd Cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn fod y garreg yn ffordd o gadw cof y Brigadydd Evans yn fyw.
Cafwyd gorymdaith cyn i seremoni gael ei chynnal wrth gofeb rhyfel Llanbadarn Fawr, gyda'r plac yn cael ei ddadorchuddio gan yr Arglwydd Raglaw Sara Edwards.