Brexit: Pryder cwmniau cludo am oedi mewn porthladdoedd

  • Cyhoeddwyd
Lori
Disgrifiad o’r llun,

Caergybi yw'r ail borthladd prysuraf yn y DU

Mae rheolwr cwmni cludiant yn y gogledd wedi rhybuddio fod angen sicrhau na fydd unrhyw oedi yn yr amser mae'n rhaid i lorïau sy'n teithio i mewn ac allan o Gymru aros yn y porthladdoedd o ganlyniad i Brexit.

Mae perchnogion y porthladdoedd yng Nghymru hefyd wedi rhybuddio y byddai unrhyw bwysau ychwanegol o ran rheolau tollau newydd a rheolau gwarchod y ffiniau yn gallu bod yn niweidiol.

Yn ôl Howard Owen o gwmni Gwynedd Shipping mae'n bwysig nad yw llif traffig o borthladd Caergybi yn arafu ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'r cwmni wedi ffynnu yn ystod y chwe blynedd diwethaf o ganlyniad i fasnachu ar draws y Farchnad Sengl, meddai, gan ychwanegu bod eu fflyd wedi cynnydd o 25 i 100 o loriau, gyda hanner o'r rhain yn croesi i Iwerddon.

'Niweidio masnach'

Yn ôl cwmnïau lorïau, mae cerbydau sy'n teithio i'r Swistir yn gorfod cwblhau cryn waith papur a llenwi dogfennau oherwydd nad yw'r wlad honno yn yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl Mr Owen pe bai hynny'n wir am lorïau yn croesi rhwng Cymru ac Iwerddon, byddai'n gallu niweidio masnach.

Galwodd am fwy o fuddsoddi mewn technoleg a meddalwedd cyfrifiadurol yn y porthladdoedd er mwyn cyflymu'r broses adnabod lorïau a'u nwyddau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cychod o borthladd Caergybi yn ogystal â phorthladd Abergwaun yn cario pobl a nwyddau i Iwerddon

Ym mis Awst, fe rybuddiodd un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol y gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd fygwth porthladdoedd Cymru ac achosi oedi ar y ffyrdd.

Roedd adroddiad gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn dweud nad oes gan nifer o borthladdoedd y capasiti i ddelio â rheolau ffiniau a thollau newydd a allai fod yn ofynnol yn dilyn Brexit.

Does yna ddim swyddogion tollau wedi bod yng Nghaergybi ers 25 mlynedd - sef pan ddaeth y Farchnad Sengl i fodolaeth.

Bryd hynny roedd 54,000 o loriau yn croesi o Ynys Môn i Iwerddon, ond erbyn hyn mae'r traffig wedi cynyddu, gyda 427,000 o lorïau yn croesi bob blwyddyn.

Dywedodd Ian Davies o gwmni Stena fod 60% o allforion Iwerddon yn mynd i'r DU, a bod tua dwy ran o dair o lorïau Iwerddon yn croesi i borthladdoedd yng Nghymru.

Mae'r cwmnïau fferi hefyd wedi rhybuddio y byddai unrhyw reolau gwahanol ar gyfer Iwerddon a Chymru, o'i gymharu â'r hyn sy'n bodoli rhwng y Weriniaeth a Gogledd Iwerddon, yn newidiol i borthladdoedd Cymru.

"Y porthladd yw'r ail o ran prysurdeb ar ôl Dover," meddai Mr Davies.

"Ein gobaith yw cael system fydd yn parhau heb unrhyw rwystrau diangen, ac o bosib y bydd hynny gyda chymorth technoleg a dulliau electroneg o fonitro.

"Mae lefel o ansicrwydd, ond beth sydd ei angen yw lefel o sicrwydd ac o eglureb o beth sy'n digwydd."

Ond ychwanegodd y byddai'r diwydiant a'r porthladdoedd yn llwyddo i addasu ac i ymdopi i'r newidiadau ddaw yn sgil Brexit.