Cynnal digwyddiadau i gofio'r bardd Vernon Watkins
- Cyhoeddwyd
Mae digwyddiadau yn cael eu cynnal i gofio'r bardd Vernon Watkins fu farw 50 mlynedd yn ôl.
Bydd drama fer, a ysgrifennwyd gan ei wraig Gwen, sy'n dangos perthynas agos Watkins gyda Dylan Thomas, yn cael ei pherfformio yn Abertawe a'i darlledu yn fyw ar-lein.
Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn cynnal arddangosfa o'i fywyd a'i waith.
Bletchley Park
Ganwyd Watkins ym Maesteg ym 1906, a chafodd ei fagu yn Abertawe.Treuliodd y rhan helaeth o'i fywyd yn Gŵyr, lle'r oedd e'n ffrind i Dylan Thomas ac yn un o griw o awduron oedd yn cael eu galw y 'Kardomah Boys.'
Yn Bletchley Park yn ystod yr Ail Ryfel Byd y gwnaeth Watkins gyfarfod â'i wraig Gwen, tra roedd y ddau yn gweithio er mwyn datrys negeseuon cyfrinachol y gelyn.
Bu farw Vernon Watkins yn 61 oed ym 1967 tra'n athro barddoniaeth yn Seattle yn yr UDA.
Mae Gwen Watkins, sydd bellach yn 93 oed, wedi ysgrifennu drama fer yn seiliedig ar sgyrsiau rhwng Watkins, Thomas a beirdd eraill a oedd yn cyfarfod yn rheolaidd yng Nghaffi'r Kardomah yn Abertawe.
Cof da
Dywedodd fod y ddrama wedi ei hysgrifennu sbel yn ôl, ac mae'n seiliedig ar straeon roedd ei gŵr yn ailadrodd am ei amser gyda'r 'Kardomah Boys.'
"Dydy hi ddim yn ddrama mewn gwirionedd, mae'n rhyw fath o sgwrs gyda fi fy hun am fy ngŵr. Yn wir, roedd hi'n gyfle i fi roi fy atgofion i lawr ar bapur cyn iddyn nhw gymysgu gydag atgofion eraill."
Mae Gwen yn hyderus bod y sgript yn adlewyrchu'r realiti gan fod gan ei gŵr allu anhygoel i gofio sgyrsiau.
"Roedd gan Vernon verbal memory. Gallai ailadrodd yr hyn a ddywedodd TS Elliot, beth y dywedodd WB Yeats, er enghraifft.
"Unwaith, fe ysgrifennodd [y sgwrs gyfan] i lawr ar y trên ar ôl iddyn nhw gwrdd, a dywedodd ffrind oedd gydag ef ar y pryd, 'Mae'n air am air, y sgwrs awr o hyd gyda Yeats.'
"Roedd popeth wedi 'sgrifennu lawr, hyd yn oed y ffordd roedd Yeats yn defnyddio idiomau Gwyddeleg.
"Roedd e'n ffodus iawn. Dw i'n amau bod dysgu cymaint o farddoniaeth tra'n blentyn wedi'i gynorthwyo. Ond roedd ganddo gof anhygoel am eiriau.
"A dim cof o gwbl am ei eiddo neu apwyntiadau, neu unrhyw beth tebyg!"
Y gwas priodas
Fe ddefnyddiodd Vernon a Gwen Watkins eu sgiliau ymenyddol i helpu i ddatgelu negeseuon cudd tra'n gweithio yn Bletchley Park yn Swydd Buckingham.
Mae Gwen yn cofio'r agosatrwydd a oedd wedi datblygu gyda Vernon a'i chydweithwyr.
"Roedd hi'n flwyddyn cyn i ni ddechrau caru. Ond roedd eich adran yn bwysig iawn i chi. Dyma'r unig bobl y gallech chi siarad gyda nhw am yr hyn oedd yn digwydd [yn Bletchley Park].
Siom
"Gydag unrhyw un o unrhyw adran arall - gallech chi chwarae tennis gyda nhw, gallech fynd i ddawnsio gyda nhw, fe allech chi gael pob math o gyfeillgarwch - ond doeddech chi byth yn sôn am yr hyn oedd yn digwydd yn y gwaith."
Fe briododd y ddau yn eglwys Saint Bartholomew the Great yn Llundain ym mis Hydref 1944. Dylan Thomas oedd fod yn was priodas ond wnaeth o ddim dod i'r gwasanaeth.
Dywedodd Gwen, sydd wedi ysgrifennu'n helaeth am Dylan Thomas a'i gyfeillgarwch â Vernon, ei bod wedi siomi'n arw gyda Thomas am iddo fethu a chyflawni ei ddyletswyddau.
"Ar y pryd, dywedodd ei fod wedi dal tacsi mewn da bryd i gyrraedd gwesty Charring Cross er mwyn cael cinio cyn y briodas, ond yn sydyn fe fethodd a chofio lle i fynd. Ac fe aeth a'r tacsi i bob rhan o Lundain yn chwilio am y gwesty. "
Ond mae Gwen yn credu bod Dylan ofn cwrdd â phobl newydd a hynny wedi ei gadw draw: "Doedd e ddim wedi anghofio, roedd e'n ddyn swil iawn. Doedd e ddim am gwrdd â dieithriaid."
Roedd Watkins yn fardd confensiynol, parchus o gymharu â chymeriad mwy rhyfeddol a bohemaidd Thomas.
Tra bod Dylan yn cael ei hudo gan y ddiod a merched ledled Cymru a dros Fôr yr Iwerydd, roedd gan Watkins swydd fel clerc ym manc Lloyds yn Abertawe nes iddo ymddeol yn 60 oed.
Roedd hynny yn incwm dibynadwy iddo ochr yn ochr â'i lwyddiant fel bardd cyfoes. Ei gyhoeddwr oedd TS Elliot, a ffafriodd Watkins yn hytrach na Dylan Thomas oherwydd dylanwadau crefyddol Watkins.
Ei grefydd
Yn Gristion ffyddlon, mae llawer o'i waith yn cynnwys delweddau crefyddol cynnil.
Mae cyn archesgob Caergaint, Dr Rowan Williams, wedi arbenigo yng ngwaith Watkins ac wedi cyhoeddi llyfrau a darlledu rhaglenni ar y pwnc.
Mae Gwen Watkins yn credu y byddai ei gŵr, sydd yn aml wedi bod yng nghysgod Dylan Thomas, yn falch o'i waddol hanner canrif ar ôl ei farwolaeth.
Gwaddol
"Faswn i'n meddwl fod ei waith wedi'i anghofio gan y rhan fwyaf o bobl. Ond mae 'na graidd o bobl sy'n hoffi barddoniaeth Gristnogol, neu bobl sydd ddim yn Gristnogion ond sy'n hoffi cerddi Vernon.
"Rwy'n teimlo os ydych chi'n hoffi ei waith, fel arfer rydych chi'n dod i garu ei waith.
"Ac mae yna grŵp bach o bobl - efallai fwy o bobl erbyn hyn - sy'n hoff iawn o'i farddoniaeth. A dyna beth rwy'n credu roedd e'n disgwyl i ddigwydd yn y pen draw.
"Fe ddywedodd unwaith, 'Dwi ddim yn meddwl bod fy ngwaith yn plesio pawb. Rwy'n ysgrifennu ar gyfer y bobl sy'n teimlo fel fi, ac sy'n credu fel fi'."