CBI yn beirniadu Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol
- Cyhoeddwyd
Mae angen meddwl eto am Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol a rôl y comisiynydd Sophie Howe, yn ôl cadeirydd CBI Cymru.
Bellach mae'r gyfraith yn gorchymyn i weinidogion a chyrff cyhoeddus i edrych ar effaith amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd polisïau Cymru.
Ond mae Mike Plaut wedi beirniadu Ms Howe am fod yn rhy negyddol a mae'n dweud hefyd ei bod yn rhoi mwy o sylw i'r amgylchedd yn hytrach na swyddi.
Yn ôl Ms Howe mae deddfwriaeth sy'n newid pethau yn sicr o gael ei feirniadu gan y rhai sydd wedi arfer â hen ffyrdd o weithredu.
Yn ddiweddar mae Ms Howe wedi gofyn nifer o gwestiynau am broses ymgynghori rhwydwaith lled-ddargludyddion £38m yng Nghasnewydd ac wedi gwrthwynebu ffordd liniaru yr M4.
Ond yn ôl Mike Plaut, cadeirydd CBI Cymru, datblygiadau i'w croesawu yw rhain gan eu bod yn diogelu swyddi a helpu busnesau.
Ychwanegodd: "Be hoffwn i ei weld yw arweinydd sy'n croesawu busnes, efallai na fydd yr arweinydd hwnnw yn cydweld â phob dim ond mae angen rhywun sy'n fodlon rhoi Cymru ar y map. Allwn ni ddim cael agwedd negatif fel hyn - ni angen agwedd bositif."
Ychwanegodd fod angen trafodaeth ond bod angen bwrw ymlaen gyda phrosiectau mawr.
Dywedodd wrth BBC Cymru: "Dwi'n deall fod yna lot o ddadleuon amgylcheddol ond mae 'na lot o ddadleuon cadarnhaol hefyd."
"Ry'n yn cael nifer o sylwadau na sydd o gymorth a dy'n ni ddim yn portreadu Cymru fel lle sy'n edrych ymlaen at y dyfodol."
Cafodd Sophie Howe ei haddysg yng Nghaerdydd ac yn 1999 hi oedd cynghorydd ieuengaf Cymru.
Mae wedi bod yn ddirprwy arweinydd y grŵp llafur yng Nghyngor Sir Caerdydd, wedi gweithio i Julie Morgan pan oedd hi'n aelod seneddol ac i'r Comisiwn Cyfle Cyfartal ac wedi bod yn ddirprwy gomisiynydd Heddlu'r De (2013-15).
Cafodd ei phenodi yn Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn Nhachwedd 2015 am gyfnod o saith mlynedd yn Nhachwedd 2015 ar gyflog o £95,000.
Ers ei phenodiad mae hi wedi dangos bod ganddi feddwl annibynnol a weithiau dyw hi ddim yn cydfynd â pholisi y Llywodraeth.
Dywedodd Ms Howe: "Mae'n rhaid i ni wneud pethau yn wahanol gan na allwn barhau i weithredu fel hyn."
Ond mae cadeirydd y CBI yng Nghymru yn cwestiynu ei chysylltiad â byd busnes ac yn gofyn a yw'r comisiwn yn ddefnydd da o arian cyhoeddus.
'Her'
Dywedodd Ms Howe: "Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddewr iawn yn cyflwyno y ddeddf newydd hon ond mae unrhyw un sy'n ceisio gwneud rhywbeth newydd yn sicr o gael ei herio gan bobl sydd wedi arfer gwneud pethau mewn dull arall.
Dywedodd mai ei rôl oedd herio cyrff cyhoeddus i feddwl am effaith tymor hir eu penderfyniadau ac ni ddylai'r penderfyniadau ystyried yr economi yn unig - rhaid meddwl am les amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru hefyd.
"Yr her i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yw ymgymryd â'r ffordd newydd yma o weithio - ffordd y bydd cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol yn elwa ohoni."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol yn ein helpu i ymateb i'r heriau tymor hir y mae'r genedl yn eu hwynebu.
"Mae rôl y comisiynydd yn un hynod o bwysig i sicrhau lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2017
- Cyhoeddwyd14 Medi 2017