Bygythiad i wasanaeth dioddefwyr cam-drin

  • Cyhoeddwyd
ChildrenFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae elusen sy'n cynorthwyo dioddefwyr cam-drin rhyw yng nghefn gwlad gorllewin Cymru yn wynebu gorfod cau oherwydd diffyg arian.

Mae elusen Seren wedi bod yn cynnig cwnsela i ddioddefwyr ers 20 mlynedd yn rhannau o Geredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Derbyniodd yr elusen daliad gan Lywodraeth Cymru yn 2016 oedd yn gyfystyr â thraean o'i hincwm.

Ond os na ddaw mwy o arian i mewn, fe allai Seren orfod cau erbyn Mawrth 2018.

Ar hyn o bryd, fe ddaw mwyafrif cyllid yr elusen o roddion neu gronfeydd ymddiriedolaeth.

Gwasanaeth unigryw

Dywedodd un o ymddiriedolwyr yr elusen, Kay Anstee: "Mae galw mawr am ein gwasanaethau, a ni yw'r unig rai sy'n cwnsela wyneb-yn-wyneb yng nghefn gwlad Cymru.

"Mae mwy a mwy o bobl yn cael eu cyfeirio atom ni bob blwyddyn - rwy'n cael o leia' un ymholiad bob dydd."

Dywedodd bod ceisiadau am arian yn cael eu gwneud, ond fod Seren yn cystadlu gydag elusennau eraill, a bod arian yn aml yn cael ei roi i brosiectau newydd.

Mae Seren wedi gorfod cau eu rhestr aros oherwydd diffyg arian, ond yn dweud y bydd y 38 o bobl sydd ar y rhestr eisoes yn derbyn cwnsela.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru roi £10,000 i'r elusen yn 2016, ond maen nhw'n dweud nad ydyn nhw wedi derbyn cais am fwy o arian.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er bod mwyafrif y gefnogaeth i ddioddefwyr cam-drin rhyw yn dod o Weinyddiaeth Gyfiawnder Llywodraeth y DU drwy law'r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd, rydym yn darparu cyllid i nifer o sefydliadau ac awdurdodau lleol sy'n cynnig cefnogaeth i ddioddefwyr cam-drin rhyw, gan gynnwys y rhai gafodd eu cam-drin pan yn blant."