Achos llofruddiaeth babi: Tad yn 'rhegi a gweiddi'
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed bod dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio ei ferch fabwysiedig wedi gweiddi a rhegi ar y plentyn.
Mae Matthew Scully-Hicks, 31 oed, yn gwadu llofruddio Elsie, a fu farw'n 18 mis oed ym mis Mai 2016 o anafiadau difrifol.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd gan gymydog i Mr Scully-Hicks ddydd Mercher, oedd yn dweud iddi glywed y dyn yn gweiddi "cau dy geg, cau dy geg" wrth y plentyn.
Yn ôl y cymydog, Susan Bevan, roedd Mr Scully-Hicks wedi codi ei lais ac yn swnio'n "rhwystredig".
Ond pan ofynnwyd iddi a oedd hi'n credu fod y plentyn mewn peryg atebodd "na", gan ychwanegu nad oedd ganddi "unrhyw reswm i fod yn bryderus".
Roedd Ms Bevan yn byw drws nesaf i Mr Scully-Hicks a'i ŵr Craig.
Clywodd y llys ei bod ar delerau "cwrtais" gyda'i chymdogion a'i bod hi'n eu hadnabod fel "yr un oedd yr aros gartref, a'r un oedd yn gweithio i ffwrdd".
Dywedodd mab Ms Bevan, James, ei fod o hefyd wedi clywed geiriau anweddus yn cael eu gweiddi tuag at y plentyn.
Clywodd y llys bod y rhegi a gweiddi yn digwydd pan roedd Elsie yn crio.
Dywedodd Jonathan Rees, ar ran y diffynnydd, fod Mr Scully-Hicks yn derbyn iddo godi ei lais ond mae'n gwadu iddo regi.
Ddydd Mawrth fe glywodd y llys fod Mr Scully-Hicks wedi cyfeirio at Elsie gan ddefnyddio'r geiriau "psycho" a "Satan".
Ond dywedodd ei ŵr, Craig Scully-Hicks fod y tŷ yn un llawn "cariad a hapusrwydd drwy'r amser" a nad oedd yn ymwybodol o unrhyw drais.
Bu farw Elsie ar 29 Mai, 2016, pythefnos ar ôl iddi gael ei mabwysiadu yn swyddogol.
Roedd hi wedi bod yng ngofal y cwpwl am wyth mis cyn hynny, ac yn y cyfnod roedd wedi cael rhai anafiadau difrifol gan gynnwys torri ei ffêr a syrthio lawr grisiau.
Galwad 999
Ddydd Mercher clywodd y rheithgor recordiad o alwad 999 gan Matthew Scully-Hicks ar 10 Mawrth, 2016 pan gafodd y ferch ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru.
Dywedodd Matthew Scully-Hicks for Elsie wedi syrthio i lawr y grisiau ar ôl i giât ar ben y grisiau agor drwy ddamwain wrth i'r ferch roi ei phwysau arno.
Ar y recordiad mae o i'w glywed yn dweud "Elsie, Elsie, tyrd 'mlaen, aros yn effro, aros yn effro, aros yn effro babi," tra'n aros i'r parafeddygon gyrraedd.
Clywodd y llys fod Elsie wedi cyfogi dair gwaith ar ôl syrthio, ond na chafodd hi sgan CT.
Cafodd ei rhyddhau o'r ysbyty bedair awr yn ddiweddarach.
Mae'r rheithgor hefyd wedi clywed i Matthew Scully-Hicks wneud galwad 999 arall am tua 18:20 ar 25 Mai, gan ddweud iddo ddod o hyd i Elsie yn ddiymadferth.
Fe wnaeth profion meddygol ar 29 Mai, sef cyn iddi farw, ddangos ei bod wedi dioddef o waedlif i'r ymennydd.
Mae'r llys hefyd wedi clywed i Elsie ddioddef gwaedu ar yr ymennydd yn y cyfnod cyn ei marwolaeth, gydag archwiliad post mortem yn dangos fod yna doriadau wedi bod i'w hasennau, coes a phenglog.
Mae'r achos yn parhau.