Ble yn y byd mae'r Gymraeg?
- Cyhoeddwyd
Faint o siaradwyr Cymraeg sydd yn y byd?
Dydyn ni ddim yn gwybod yn union faint o bobl sy'n siarad Cymraeg dros y byd ond fe allai map interactif newydd , dolen allanolhelpu i roi darlun llawnach o'r iaith tu allan i Gymru.
Yn ogystal â dangos fod 'na siaradwyr rhugl i'w canfod ar bum cyfandir - o Miami yn yr Unol Daleithiau i Gambodia yn Asia - mae'r map yn nodi unigolion a grwpiau sy'n dysgu Cymraeg.
Ymysg y dosbarthiadau Cymraeg sydd wedi gosod marciwr ar y map mae un ym Mhrifysgol Bingham yn Utah, UDA, yn Melbourne, Awstralia ac ym Mhatagonia.
Mae cofnod hefyd gan grŵp Cymraeg yn Saskatchewan, Canada.
'Angerdd at yr iaith'
Cwmni Braw Media o'r Alban sydd wedi datblygu'r wefan sy'n cynnwys map o siaradwyr Gaeleg a Gwyddeleg y byd hefyd.
Meddai Magnus Orr o'r cwmni: "Ein nod gyda'r map yw dangos yr angerdd sydd gan bobl at yr iaith Gymraeg, nid yn unig yng Nghymru ond dros y byd.
"Gyda thros 500 o farcwyr wedi eu hychwanegu yn y diwrnod cyntaf rydw i wrth fy modd gyda'r ymateb.
"Mae'r cyfryngau digidol yn rhoi cyfle gwych inni helpu gwahanol grwpiau i gysylltu gyda phobl a hoffai ddysgu Cymraeg a dyna brif bwrpas y map.
"Mae'n galonogol gweld faint o bobl sydd â diddordeb mewn dysgu Cymraeg, Gaeleg neu Wyddeleg fel rhan o'u hunaniaeth genedlaethol."
Mae'r map hefyd yn gwahodd pobl sydd â diddoreb mewn dysgu'r iaith i gyfrannu.
Ar adeg ysgrifennu'r erthygl hon roedd 74 o wledydd wedi eu cynnwys ar y map.
Mwy am y Gymraeg dros y byd: