Achos llofruddiaeth Elsie Scully-Hicks: Rhyddhau llun
- Cyhoeddwyd
Mae barnwr mewn achos llofruddiaeth wedi rhyddhau llun o Elsie Scully-Hicks, y ferch 18 mis oed a fu farw ym mis Mai y llynedd.
Mae ei thad mabwysiedig, Matthew Scully-Hicks, 31 oed o Gernyw, yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth.
Fe ddechreuodd yr achos ddydd Llun yn Llys y Goron Caerdydd.
Mae'r llys wedi clywed i Elsie dioddef anafiadau dwys i'w phen ym Mai 2016 cyn iddi farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Yn gynharach yn yr achos fe glywodd y rheithgor fod Elsie wedi ei mabwysiadu gan Mr Scully-Hicks a'i ŵr Craig ym mis Medi 2015, a bod y broses o fabwysiadu wedi ei gwblhau wyth mis yn ddiweddarach.
Bu farw Elsie ar 29 Mai, 2016, pythefnos ar ôl iddi gael ei mabwysiadu yn swyddogol.
Roedd hi wedi bod yng ngofal y cwpl am wyth mis cyn hynny, ac yn y cyfnod roedd wedi cael rhai anafiadau difrifol gan gynnwys torri ei ffêr a syrthio i lawr grisiau.
Dywedodd Matthew Scully-Hicks for Elsie wedi syrthio i lawr y grisiau ar 10 Fawrth ar ôl i giât ar ben y grisiau agor drwy ddamwain wrth i'r ferch roi ei phwysau arno.
Clywodd y llys fod Elsie wedi cyfogi dair gwaith ar ôl syrthio, ond na chafodd hi sgan CT, ac fe gafodd ei rhyddhau o'r ysbyty bedair awr yn ddiweddarach.
Mae'r achos hefyd wedi clywed gan gymydog i Matthew Scully-Hicks bod y diffynnydd wedi gweiddi a rhegi ar y plentyn.
Dywedodd Jonathan Rees, ar ran y diffynnydd, fod Matthew Scully-Hicks yn derbyn iddo godi ei lais ond mae'n gwadu iddo regi.
Mae'r achos yn parahu.