Gofal iechyd meddwl i famau newydd yn 'annerbyniol'

  • Cyhoeddwyd
Dynes feichiog a Bydwraig

Mae angen mwy o fuddsoddiad mewn gofal iechyd meddwl i ferched yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl rhoi genedigaeth medd un o bwyllgorau'r Cynulliad.

Rhybuddiodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fod y diffyg gofal arbenigol i gleifion yng Nghymru sydd â'r symptomau mwyaf difrifol yn "annerbyniol".

Er bod y pwyllgor yn croesawu creu timau iechyd meddwl amenedigol arbenigol i drin mamau yn y gymuned, mae wedi argymell bod angen mwy o fuddsoddiad i alluogi'r holl wasanaethau gyrraedd y safon orau posib.

Dywedodd Staci Sylvan o Sir Gaerfyrddin, sydd wedi profi salwch meddwl amenedigol a roddodd dystiolaeth i ymchwiliad y pwyllgor, ei bod yn "anodd iawn cael help pan y'ch chi'n feddyliol wael".

Mae cadeirydd y pwyllgor, Lynne Neagle wedi dweud fod "mwy i'w wneud o hyd i sicrhau bod menywod sydd angen cefnogaeth arbenigol yn y gymuned yn cael y gofal cywir, a bod ymrwymiad i fonitro cynnydd Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwasanaethau mor dda â phosibl".

Disgrifiad o’r llun,

Lynne Neagle yw cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad

Dywedodd y gellir gofalu am y mwyafrif o fenywod sy'n dioddef o salwch meddwl amenedigol yn ddiogel ac yn effeithiol yn y gymuned, ond mae angen gofal mewn Uned Mam a Baban arbenigol ar gyfer y rheiny sydd â'r symptomau mwyaf difrifol.

Er bod o rhwng 60 ac 80 o fenywod yng Nghymru angen eu derbyn i gael gofal mewnol bob blwyddyn, clywodd y pwyllgor dystiolaeth fod yr unig uned yng Nghymru wedi cau yn 2013.

Ers hynny, clywodd y pwyllgor bod cleifion wedi teithio mor bell â Derby, Llundain a Nottingham, neu wedi cael triniaeth mewn uned seiciatrig i oedolion wedi'u gwahanu oddi wrth eu plentyn.

'Loteri cod post'

Un sydd â phrofiad o ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yw Sally Wilson o Fangor, a dywedodd wrth y pwyllgor ei bod yn "loteri cod post o ran ble rydych chi".

"Dyw gogledd a gorllewin Cymru ddim yn dueddol o wneud yn dda iawn o ran y gwasanaethau a gaiff eu darparu o'u cymharu â de Cymru a Chaerdydd," meddai.

Ychwanegodd Ms Neagle fod pobl wedi dweud fod "angen gwella'r cymorth iechyd meddwl ar gyfer menywod sy'n rhoi genedigaeth yng Nghymru".

"Amcangyfrifir bod salwch meddwl amenedigol yn effeithio ar hyd at un o bob pum menyw ar ryw adeg yn ystod eu beichiogrwydd neu yn y flwyddyn gyntaf ar ôl rhoi genedigaeth, gyda'r cyflyrau'n amrywio ar draws sbectrwm o ddifrifoldeb," meddai.

"Felly, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda GIG Lloegr fel mater o frys i drafod opsiynau ar gyfer creu canolfan yng ngogledd ddwyrain Cymru a allai wasanaethu dwy ochr y ffin."

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae Coleg Brenhinol y Bydwragedd wedi croesawu adroddiad y pwyllgor

Yn croesawu'r adroddiad, dywedodd cyfarwyddwr Cymru ar gyfer Coleg Brenhinol y Bydwragedd, Helen Rogers: "Rydym yn falch gyda'r argymhellion i gael gweithwyr iechyd proffesiynol gyda chysylltiad â gwasanaethau bydwragedd wedi'i lleoli ym mhob bwrdd iechyd.

"Mae'r adroddiad hefyd yn adlewyrchu'r angen i wella'r cyfathrebu rhwng timau bydwragedd proffesiynol er mwyn sicrhau bod merched bregus yn cael eu hadnabod yn gyflym."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi bod yn datblygu opsiynau eleni i wella gofal iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu gofal arbenigol i gleifion mewnol."

Ychwanegodd bod timau cymunedol ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru.