Storm Ophelia: 800 yn parhau heb drydan yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Prom Aberystwyth ynghanol y storm ddydd Llun

Mae tua 800 o gartrefi yn parhau heb gyflenwad trydan yn ngogledd Cymru nos Fawrth ar ôl i effeithiau Storm Ophelia daro Cymru.

Roedd rhybudd melyn am wyntoedd cryfion mewn grym ar gyfer y gogledd-orllewin fore Mawrth, ond mae hwnnw bellach wedi dod i ben.

Roedd pum ysgol yng Ngwynedd a Môn ynghau ddydd Mawrth o ganlyniad i'r storm.

Mae nifer o ffyrdd ar draws Cymru yn parhau ar gau - nifer o'r rheiny am fod coed yn eu rhwystro.

Dywedodd Scottish Power fore Mawrth bod 4,000 o gartrefi yn parhau heb gyflenwad trydan yn y gogledd, ond erbyn 13:00 roedd y ffigwr wedi gostwng i 1,300.

Tua 800 oedd heb drydan erbyn 18:00.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y tonnau yn taro arfordir Bae Trearddur ar Ynys Môn ddydd Llun

Roedd Ysgol Eifionydd ym Mhorthmadog ynghau am "resymau iechyd a diogelwch" wedi i goeden ddisgyn ar dir yr ysgol.

Roedd pedair ysgol ar Ynys Môn - Henblas, Tregarth, y Ffridd a Bodfeurig - ynghau am nad oes cyflenwad trydan yno.

Trafferthion ar y ffyrdd

Roedd yr A4086 yn Nant Peris ynghau wedi i goeden a cheblau pŵer ddisgyn ar y ffordd, tra roedd yr A494 yn Nolgellau, yr A487 yn Niwgwl, Sir Benfro, a'r A5 yng Ngwalchmai, Ynys Môn wedi bod ar gau hefyd.

Roedd tri rhybudd coch am lifogydd mewn grym fore Mawrth - yn Aberaeron, Aberystwyth a phentref Dale yn Sir Benfro - ond mae'r rheiny bellach wedi dod i ben.

Cafodd nifer o wasanaethau fferi rhwng Cymru ac Iwerddon eu gohirio ddydd Llun a bore Mawrth.

Roedd trenau hefyd wedi'u gohirio am gyfnod rhwng Pwllheli a Phorthmadog fore Mawrth am fod coeden wedi disgyn ar y rheilffordd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr heddlu wedi rhybuddio pobl i beidio mynd i lefydd peryglus i geisio cael lluniau o'r storm

Dywedodd perchennog cychod o Sir Benfro ei fod wedi colli pum cwch yn y storm ddydd Llun.

Roedd Paul Sage a'i ffrind yn cadw'r cychod ym Mhorthclais.

"Fe glywon ni fod y storm ar y ffordd, a petaen ni wedi gwybod pa mor wael oedd hi'n mynd i fod, fe fydden ni wedi tynnu'r cychod o 'na," meddai.

"Roedd e'n arswydus a brawychus, roedd 'na storm tua 30 mlynedd yn ôl ond dyma'r gwaethaf y mae'r harbwr wedi ei weld."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Car yn gyrru trwy ewyn gafodd ei daflu ar y ffyrdd ym Mae Trearddur ddydd Llun

Fe wnaeth y storm effeithio ar rannau helaeth o orllewin Cymru ddydd Llun gyda gwyntoedd o dros 80mya yng Ngwynedd, Ynys Môn a'r Mwmbwls yn Abertawe.

Fe wnaeth hyd at 12,000 o dai golli pŵer yn ystod y storm - 7,000 o'r rheiny yn y canolbarth a'r de orllewin, a 5,000 yn y gogledd.

Dywedodd Western Power fore Mawrth bod cyflenwad trydan wedi dychwelyd i bawb yn y canolbarth a'r de-orllewin, ac mae Scottish Power yn gweithio i adfer y cyflenwad llawn yn y gogledd.

Cafodd yr hyrddiadau cryfaf - 90mya - eu cofnodi yn Aberdaron ym Mhen Llŷn.