Banc Datblygu Cymru: Prif Weithredwr ddim yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
£20 notesFfynhonnell y llun, Getty Images

Ni fydd prif weithredwr sefydliad newydd Banc Datblygu Cymru, Giles Thorley, wedi ei leoli yn y pencadlys yn Wrecsam.

Mae'r banc newydd yn disodli Cyllid Cymru, corff oedd yn gyfrifol am fuddsoddi ar ran Llywodraeth Cymru, a bydd ei agoriad swyddogol yn y gogledd ddydd Mercher.

Bydd 54 o bobl yn gweithio yn Wrecsam, ond nid yna fydd pencadlys y prif weithredwr.

Dywedodd llefarydd ar ran y banc y bydd y prif weithredwr newydd yn gweithio yn Wrecsam, ac yn ymweld â'r dref, yn gyson.

Gobaith gweinidogion yw y bydd y banc, fydd â'r gallu i fuddsoddi dros £440m, yn rhoi help llaw i fusnesau newydd ac yn gymorth iddynt dyfu.

Mae Cyllid Cymru yn cyflogi 120 o bobl yng Nghaerdydd, tra bod Banc Datblygu Cymru yn gobeithio cyflogi 54 erbyn 2021.

Ym mis Mai dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates fod y penderfyniad i leoli'r banc yn Wrecsam yn rhan o ymroddiad Llywodraeth Cymru "i ledu swyddi a llewyrch i bob rhan o Gymru".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ken Skates bod lleoli'r banc yn Wrecsam yn bwysig i'r ardal, ac i Gymru gyfan

Dywedodd Mr Skates: "Fe fydd cael pencadlys yn Wrecsam yn golygu y bydd y prif weithredwr a'r prif swyddogion ac aelodau'r bwrdd yn bresennol yn y gogledd yn rheolaidd.

"Mae hynny'n bwyisg nid yn unig i'r rhanbarth yma, ond i weddill Cymru er mwyn rhannu'r cyfleoedd i greu cyfoeth."

Dywedodd llefarydd ar ran y banc datblygu: "Mae'r penodiadau ar gyfer y swyddi wedi eu gwneud ar y ddealltwriaeth y bydd y swydd un ai yng Nghaerdydd neu Wrecsam.

"Fe fydd hyn yn caniatáu i'r banc allu denu talent o ardal eang, gan gynnwys de orllewin a gogledd orllewin Prydain.

"Ni fydd y prif weithredwr wedi ei leoli yn Wrecsam, ond fel holl aelodau'r tîm rheoli, fe fydd yn bresennol yn Wrecsam yn rheolaidd.

"Fe fydd hanner y cyfarfodydd bwrdd yn cael eu cynnal yn Wrecsam."