Cynnydd o 10% mewn achosion trosedd yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
ystadegau troseddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae nifer y troseddau sydd wedi eu cofnodi gan heddluoedd Cymru a Lloegr wedi codi dros bum miliwn am y tro cyntaf mewn deg mlynedd.

Yng Nghymru roedd 'na gynnydd o 10% yn nifer yr holl droseddau, gyda chyfanswm o tua 209,000.

Yn ôl ffigyrau y Swyddfa Ystadegau, roedd yna gynnydd ym mhob un o luoedd Cymru.

Gwent, gyda 14%, welodd y cynnydd mwyaf, a Dyfed-Powys 3% oedd yr isaf.

Yn ardal Heddlu'r De, roedd yna gynnydd o 11%, tra i Heddlu Gogledd Cymru weld cynnydd o 7%.

Roedd tua hanner y troseddau i'w cofnodi dod o rhanbarth Heddlu'r De - tua 101,000.

Cafodd 43,000 o droseddau eu cofnodi yn ardal Gwent, 42,000 yng Ngogledd Cymru a 22,000 yn ardal Dyfed-Powys.

Yn ôl y ffigyrau, roedd cynnydd o 18% yn nifer troseddau yn ymwneud â thrais difrifol, tra bod troseddau rhyw wedi gweld cynnydd o 24%.

Roedd yna ostyngiad o 43% yn nifer yr achosion o farwolaeth neu anafiadau o ganlyniad i yrru anghyfreithlon.