Cwmnïau coll Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae enw ambell i hen gwmni yn aros yn y cof ymhell wedi i'r cynhyrchu ddod i ben.
Yng Nghymru mae 'na gwmnïau sydd bellach wedi hen ddiflannu, ond maen nhw wedi gadael eu marc ar y genedl.
Faint o'r rhain ydych chi yn eu cofio?
Gilbern
Roedd ceir Gilbern yn cael eu cynhyrchu yn Llanilltud Faerdref ger Pontypridd. Cafodd y cwmni ei sefydlu yn 1959 gan gigydd o'r enw Giles Smith a pheiriannydd o'r Almaen o'r enw Bernard Friese.
Fel 'ceir cit' oedd y Gilbern ar gael ar y dechrau, ond cafodd ceir cyfan eu gwerthu yn ddiweddarach.
Yr Invader oedd y car Gilbern olaf i gael ei gynhyrchu ym mis Gorffennaf 1969. Roedd ceir Gilbern yn eithaf drud yn eu dydd ond roedd newid ar y Dreth ar Werth ar 'geir cit' yn niweidiol iawn i'r cwmni. Daeth y cynhyrchu i ben yn 1973.
Airways Cymru ac Awyr Cymru
Yng Nghaerdydd yn 1984 cafodd cwmni awyrennau Airways International Cymru ei sefydlu. Roedd yn cynnig hediadau i 20 o ganolfannau ledled Ewrop, gan gynnwys Milan, Geneva a Salzburg.
Roedd y cwmni yn gwneud yn dda yn ystod yr haf ond yn ystod misoedd y gaeaf roedd yr awyrennau'n cael eu benthyg i gwmnïau eraill fel Air New Zealand, Aer Lingus, British Midland Airways a Manx Airlines. Daeth Airways International Cymru i ben fel gwasanaeth yn 1988.
Cwmni awyrennau Cymreig arall oedd Awyr Cymru, enw sydd wedi cael ei ddefnyddio ddwywaith - yn 1977 am ddeunaw mis, ac eto yn 1997. Ar 23 Ebrill 2006 daeth y gwasanaeth i ben yn barhaol, oherwydd costau cynyddol a chystadleuaeth gan gwmnïau enfawr a oedd yn cynnig gwasanaeth tebyg.
Diodydd Corona
Roedd Corona yn fath o ddiod meddal (pop) a oedd yn cael ei gynhyrchu yn y Porth yn y Rhondda. Cafodd y cwmni ei ssefydlu yn 1884 gan William Thomas a William Evans, yn rhannol mewn ymateb i'r mudiad dirwest a oedd yn erbyn yfed diodydd alcohol.
Ar ei fwya' fe ehangodd y cwmni i 87 safle drwy Brydain, gyda'r pencadlys yn parhau yn Ngweithdai Bryniau Cymru yn y Porth. Cafodd Corona ei werthu i grŵp Beecham yn y 1950au ac yna Britvic cyn i'r brand ddod i ben ar ddiwedd y 1990au.
Cafodd hen ffatri Corona ym Mhorth ei ailagor ar ei newydd wedd yn 2000 fel Y Ffatri Bop - lleoliad i gerddoriaeth byw ac adloniant.
Dragon Computers
Cafodd y cyfrifiaduron cartref Dragon 32 a Dragon 64 eu cynhyrchu ym Mhort Talbot yn yr 1980au. Roedd y farchnad cyfrifiaduron cartref yn ffynnu ym Mhrydain ar y pryd.
Yn Awst 1982 fe gafodd cyfrifiadur Dragon 32 gan Dragon Data ei werthu am y tro cyntaf, gyda Dragon 64 yn cyrraedd y siopau y flwyddyn wedyn.
Roedd y fenter yn llwyddiannus am gyfnod ond roedd apel cyfrifiaduron newydd fel Sinclair ZX Spectrum a'r BBC Micro gyda'u pwyslais ar gemau yn ergyd fawr i Dragon Data. Aeth y cwmni i'r wal yn mis Mehefin 1984.
Defiance Cycles, Rhydaman
Cafodd Defiance Cycle Company ei sefydlu yng ngorllewin Cymru yn 1880. Dau frawd, Arthur a William Williams, sefydlodd y cwmni ac roedd ffatri yn cynhyrchu beiciau yn Nyffryn Aman.
Roedd y cwmni yn hynod lwyddiannus yn yr 1880au. Yn 1895 agorodd y cwmni siop yn Johannesburg i werthu beiciau o Gymru i seiclwyr De Affrica gan ddefnyddio'r enw masnachol The Defiance Cycle Company of Glanaman & Johannesburg.
Roedd beiciau Defiance yn cael eu cynhyrchu tan 1948, pan fu farw Arthur Williams.
Allbright Bitter
'Peint mwyaf poblogaidd Cymru'. Dyna sut oedd Allbright Bitter yn disgrifio ei hun yn yr ymgyrch marchnata, ynghŷd â'r slogan Never forget your Welsh.
Roedd y cwrw yma'n hynod boblogaidd ar un adeg yng Nghymru, ond mae chwaeth y Cymry wedi newid ac mae'r enw wedi diflannu o dafarndai'r genedl.
Sinclair C5
Mae cerbydau trydan yn mynd o nerth i nerth y dyddiau yma yn dilyn gofidion am yr amgylchedd a newid hinsawdd. Ond fe roedd Cymru'n arwain y ffordd yn y maes dros dri degawd yn ôl.
Roedd y Sinclair C5 yn gerbyd trydanol i un gyda'r gallu i fynd ar gyflymder o 15 milltir yr awr a theithio hyd at 20 milltir gyda batri llawn. Roedd yn cael ei gynhyrchu yn ffatri Hoover ym Merthyr Tudful.
Cafodd y cerbyd sylw mawr yn y cyfryngau pan gafodd ei ddatgelu gan ei ddyfeisiwr, Syr Clive Sinclair, ym mis Ionawr 1985. Ond, doedd y ddyfais ddim yn boblogaidd gyda'r cyhoedd a siomedig iawn eodd y gwerthiant. Daeth y gwaith cynhyrchu i ben ym mis Awst y flwyddyn honno.
Er y methiant yn fasnachol mae'r C5 wedi datblygu grŵp o ddilynwyr ffyddlon ac mae'r cerbydau yn cael eu gwerthu am filoedd o bunnoedd y dyddiau yma - £399 oedd y pris gwreiddiol.
Brown Lenox
Roedd cwmni Brown Lenox yn cynhyrchu cadwynni ac angorau mawr a oedd yn cael eu defnyddio ar gyfer cychod anferth. Agorodd y cefndryd Samuel Brown a Samuel Lenox y ffatri ym Mhontypridd yn 1816.
Er mai cwmni rall wnaeth y gadwyn ar gyfer y Titanic, Brown Lenox wnaeth ei chynllunio.
Cafodd y ffatri ym Mhontypridd ei chau yn 2000 ac archfarchnad Sainsbury's sydd bellach ar y safle.