Cynhadledd Plaid Cymru: 'Rhaid dweud ffarwel'?

  • Cyhoeddwyd
Leanne WoodFfynhonnell y llun, Plaid Cymru

Bando o'r 80au, neu Yws Gwynedd 30 mlynedd yn ddiweddarach - yr un ydy'r geiriau yn 'Pan Ddaw Yfory': "Gad i ni obeithio na ddaw'r noson byth i ben."

Does wybod os oedd Leanne Wood yn hymian yr alaw, ond dyna'n sicr oedd ei dymuniad hi yn oriau mân 9 Mehefin.

Wrth i'r nos ymestyn i'r dydd roedd hi'n dod yn fwyfwy amlwg y byddai Plaid Cymru yn cipio pedwaredd sedd seneddol.

Rhyfedd felly bod rhai yn cwestiynu a ddylai hi barhau fel arweinydd.

Ennill neu golli tir?

Mae hon yn taro rhywun fel achos llys, lle mae dadleuon yr erlyniad a'r amddiffyniad yr un mor gryf â'i gilydd, gyda'r rheithgor - aelodau Plaid Cymru yn yr achos yma - yn ansicr ynglŷn â'r dyfarniad.

Wrth sôn am ganran y bleidlais yn cwympo a blaendaliadau'n cael eu colli yn yr etholiad cyffredinol, cefais fy atgoffa gan Leanne Wood yr wythnos hon 'mod i wedi dweud wrthi yn 2015 mai dim ond ennill seddi sy'n bwysig mewn etholiadau.

A chymryd felly bod hynny yn wir, dyma gymharu lle mae'r blaid arni ers i Leanne Wood gymryd yr awenau. Mae 'na bedwar yn llai o gynghorwyr, ac roedd un Aelod Cynulliad yn fwy cyn i Dafydd Elis-Thomas adael y blaid a chyn i Neil McEvoy gael ei wahardd o'r grŵp.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dafydd Elis-Thomas a Neil McEvoy bellach yn eistedd fel aelodau annibynnol yn y Siambr

Mae 'na Aelod Seneddol ychwanegol, mae'r aelod o Senedd Ewrop wedi cadw ei sedd, ac mae 'na ddau Gomisiynydd Heddlu newydd.

Mae'r perfformiad felly yn gyson. Ond ai cyson o dda o dan amgylchiadau anodd, neu cyson siomedig o ystyried bod y disgwyliadau'n uwch?

Yn addas iawn y 'mab darogan', Adam Price, fu'n gwneud y gwaith o osod y disgwyliadau drwy dargedu wyth sedd yn yr etholiad cyffredinol.

Ddigwyddodd hynny ddim, ond roedd y canlyniad yn un "rhyfeddol" medd Leanne Wood.

Gweledigaeth bositif

Straeon gwneud ydy rhai o'r straeon am arweinwyr dan bwysau weithiau. Rhywbeth i lenwi gwagle cynhadledd sy'n argoeli i fod yn un ddifflach.

Nid felly hon.

Mae 'na Aelodau Cynulliad sydd am weld newid, yn awyddus i gael mwy o oleuni na thywyllwch - hynny yw, gweledigaeth bositif yn hytrach nag ymosodiadau cyson ar y Ceidwadwyr yn San Steffan a Llafur yn y Cynulliad.

Mae sawl un yn rhannu eu rhwystredigaethau yn breifat, ond mae'r amser yn prysur ddod i gymryd y cam nesaf neu encilio.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd llwyddo i ethol Ben Lake yn Aelod Seneddol dros Geredigion yn un o lwyddiannau'r blaid eleni

Mi fydd dilynwyr cyson y sibrwd am yr arweinyddiaeth yn gyfarwydd â'r doethinebu ynglŷn ag enw'r olynydd posib. Ond yr un heriau fyddai o neu hi yn eu hwynebu. Sut mae gwireddu polisïau Plaid Cymru wrth barhau'n wrthblaid gredadwy?

Y perygl ydy trio plesio pawb a phlesio neb - arwyddo'r compact gyda Llafur, bargeinio gyda'r llywodraeth dros y gyllideb ond wedyn tynnu 'nôl o gytundebau tebyg o hyn ymlaen.

Ac ar Brexit, mae Leanne Wood yn dweud ei bod hi'n parchu'r canlyniad, yn wfftio'r syniad o ail refferendwm ac eto'n siarad am y posibilrwydd o bleidlais arall ar y cytundeb terfynol.

'Nôl at y gân - "Pan ddaw yfory, rhaid dweud ffarwel a rhoi pob dim yn ôl" ydy dechrau'r gytgan.

Dyna ffawd pob arweinydd yn y pendraw. Y cwestiwn i'r galeri yng Nghaernarfon ydy pryd.

Neu efallai eu bod nhw'n gofyn oes 'na rywun arall mewn gwirionedd fyddai'n gwneud cystal...