Galw am gyflogi ymchwilwyr i daclo stelcian yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
dwylo yn teipioFfynhonnell y llun, Getty Images

Dylai Llywodraeth Cymru ariannu ymchwilwyr digidol er mwyn taclo stelcian ac aflonyddu, yn ôl un academydd blaenllaw.

Dywedodd yr Athro Martin Innes wrth BBC Cymru y gallai'r llywodraeth eu hariannu yn yr un ffordd a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO).

Mae'r ffigyrau trosedd diweddaraf yng Nghymru yn dangos fod stelcian ac aflonyddu wedi tyfu'n gynt na'r cyfartaledd dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.

'Adolygu blaenoriaethau'

Yn ôl yr Athro Innes, cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch ym Mhrifysgol Caerdydd, mae'r cynnydd yn yr achosion stelcian ac aflonyddu wedi digwydd oherwydd y defnydd cynyddol o gyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd y gallai'r llywodraeth ariannu ymchwilwyr cymunedol er mwyn cynorthwyo swyddogion heddlu.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ariannu swyddogion PCSO yng Nghymru, yn wahanol i'r arian sy'n dod o Lywodraeth y DU ar gyfer plismona.

Mae cynnydd wedi bod mewn troseddau stelcian ac aflonyddu mewn sawl gwlad, yn enwedig yn Asia ble mae'r defnydd o gyfryngau cymdeithasol wedi cynyddu'n sylweddol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn y gorffennol mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn awyddus i weld grymoedd dros blismona'n cael eu datganoli i Gymru.

Mae'r Swyddfa Ystadegau wedi dweud fod y cynnydd mewn troseddau yn rhannol oherwydd bod yr heddlu bellach yn eu cofnodi'n well nag oedden nhw gynt.

Ond maen nhw'n dweud fod mwy o droseddau wedi digwydd pan mae'n dod at droseddau treisgar, stelcian ac aflonyddu.

Yn ôl yr Athro Innes, dylai'r ffigyrau diweddaraf annog y lluoedd heddlu i ailedrych ar eu blaenoriaethau plismona yng Nghymru.