The Gentle Good yn ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig
- Cyhoeddwyd
The Gentle Good o Gaerdydd sydd wedi ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni am ei bedwerydd albwm Ruins/Adfeilion.
Fe gafodd The Gentle Good - enw llwyfan y cerddor gwerin Gareth Bonello - ei gyhoeddi fel yr enillydd mewn seremoni yn yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd nos Wener.
Cafodd yr albwm ei ddewis fel yr enillydd gan 12 o arbenigwyr o'r diwydiant cerddoriaeth, gan gynnwys y DJ Elan Evans, cyfarwyddwr artistig newydd Galeri Caernarfon, Nici Beech a golygydd blog Sôn Am Sîn, Gethin Griffiths.
Mae'r wobr, gafodd ei sefydlu 'nôl yn 2011 gan DJ Radio Cymru a Radio 1, Huw Stephens a'r arbenigwr ar y diwydiant, John Rostron yn dathlu rhagoriaeth cerddoriaeth newydd yng Nghymru.
Mae The Gentle Good yn ymuno ag artistiaid fel Gruff Rhys, Georgia Ruth, Gwenno a Meilyr Jones fel cyn-enillwyr y wobr.
'Record syfrdanol'
"Roedd y rhestr fer yn arbennig o gryf eleni," meddai Mr Stephens.
"Rydyn ni'n falch iawn bod yr albymau gwych yma'n cael eu creu gan gerddorion Cymreig ac yn cael eu rhyddhau ar labeli annibynnol sy'n ffynnu.
"Mae eu dathlu a'u hyrwyddo yn bwysig iawn.
"Ar ôl ystyriaeth ofalus, fe benderfynodd y beirniaid ar albwm The Gentle Good - record syfrdanol sydd wedi cyrraedd cynulleidfa byd eang ar label annibynnol o Gaerdydd."
Yr artistiaid eraill oedd ar y rhestr fer oedd:
Gruff Rhys - Set Fire To The Stars
Georgia Ruth - Fossil Scale
Bendith - Bendith
Baby Queens - Baby Queens
Mammoth Weed Wizard Bastard - Y Proffwyd Dwyll
H Hawkline - I Romanticize
Kelly Lee Owens - Kelly Lee Owens
Toby Hay - The Gathering
Cotton Wolf - Life in Analogue
HMS Morris - Interior Design
Sweet Baboo - Wild Imagination