Bywyd newydd i Felodrom hanesyddol Caerfyrddin

  • Cyhoeddwyd
Aled Jones ac Emyr Griffiths yn edrych ymlaen i ddefnyddio'r feledrom ar ei newyddwedd
Disgrifiad o’r llun,

Aled Jones o Seiclo Cymru ac Emyr Griffiths o Tywi Riders yn edrych ymlaen i ddefnyddio'r feledrom ar ei newydd wedd

Fe fydd Felodrom Caerfyrddin yn ailagor nos Fawrth ar ôl cynllun £600,000 i adnewyddu'r trac concrit awyr agored.

Daw'r trac gwreiddiol o 1900, ac mae'n un o'r enghreifftiau hynaf o felodrom awyr agored yn y byd.

Cafodd seiclo ei wahardd ar y trac yn 2015 yn sgil pryderon am ddiogelwch.

Mae'r gwaith arbenigol i adnewyddu dros 230 o baneli concrit wedi cymryd mwy na phum mis.

Fe fydd y seiclwyr Scott Davies, sy'n cystadlu i dîm Dimension Data, ac Amy Roberts, o dîm Wiggle High5, yn agor y felodrom mewn seremoni arbennig am 17:30.

Clwb lleol y Tywi Riders fydd yn cael yr anrhydedd o ddefnyddio'r trac gyntaf.

Fe wnaeth Cyngor Sir Caerfyrddin, Chwaraeon Cymru a Chyngor Tref Caerfyrddin gyfrannu at y gost.

CyclingFfynhonnell y llun, Amgueddfa Sir Gâr
Disgrifiad o’r llun,

Mae safle'r Feledrom yn y dref yn dyddio nôl i 1900

"Mae'n gyflymach na thrac tar ac mae concrit yn para yn hirach ac mae'n wyneb arbennig o dda," meddai Aled Jones, swyddog datblygu gyda Seiclo Cymru.

"Mae'n mynd i ddenu mwy o blant ac mae beicwyr enwog wedi datblygu o'r ardal fel Scott ac Amy, roedd y ddau wedi sefydlu eu hunain ar ôl datblygu gyda Tywi Riders."

Un o hyfforddwyr y tîm hwnnw yw Emyr Griffiths, sy'n gweithio gyda seiclwyr dan 16 oed.

"Mae'n well na beth oeddwn i yn meddwl. Fi'n edrych 'mlaen at ddod â'r plant yma," meddai.

"'So ni wedi bod yma yn hyfforddi ers blynyddoedd oherwydd cyflwr yr hen felodrom. Dwi'n siŵr bydd rhifau'r plant yn cynyddu yn sylweddol."

'Canolfan seiclo Cymru'

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyfrannu £280,000 tuag at y gost o adnewyddu'r Felodrom.

Yn ôl arweinydd y cyngor, Emlyn Dole, mae'n rhan o strategaeth i ddatblygu seiclo yng Nghaerfyrddin.

"Mae'n cysylltu gyda'r hyn 'dan ni'n gwneud o ran beicio mynydd ym Mrechfa, 'dan ni'n datblygu close circuit ym Mhen-bre, Llwybr y Tywi wedyn o Gaerfyrddin i Landeilo hefyd, mae hynny yn ehangu'r cynnig o ran twristiaeth a beicio, gyda'i gilydd a 'dan ni eisiau gwneud Caerfyrddin yn ganolfan seiclo Cymru."