Galw am asesiadau iselder ôl geni i dadau newydd
- Cyhoeddwyd
Dylai tadau newydd gael eu sgrinio ar gyfer arwyddion o iselder ar ôl genedigaeth eu plant, medd un ymgyrchydd iechyd meddwl.
Yn ôl Mark Williams, o'r elusen Fathers Reaching Out sydd wedi ei leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae angen gwell cydnabyddiaeth o'r effaith y gall genedigaeth anodd ei gael ar ddynion.
Mae'n galw am asesiadau i'r holl dadau newydd ar gyfer iselder ar ôl geni yn yr un modd â mamau newydd.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud bod iselder ar ôl geni ymhlith tadau yn gallu chwarae "rôl bwysig" ond does dim cynlluniau ar hyn o bryd i wneud yr asesiadau yn rhai gorfodol.
Y sefyllfa bresennol yw bod modd mesur os yw mam newydd yn dioddef iselder wedi genedigaeth trwy ddefnyddio Graddfa Iselder ar ôl geni Caeredin, sef holiadur sydd yn gofyn i fenywod fesur eu cyflwr iechyd.
Mae Mr Williams, wnaeth sefydlu'r grŵp cefnogaeth Fathers Reaching Out ar ôl dioddef iselder ôl geni ei hun, wedi ei wahodd i drafod ei brofiad gydag ASau yn Nhŷ'r Cyffredin fis nesaf.
Bydd yn dweud wrth wleidyddion ei fod eisiau i iechyd meddwl tadau newydd gael eu hasesu gan ymwelwyr iechyd a meddygon yn yr un ffordd a mamau newydd.
Fe gafodd Mr Williams, 41 a'i wraig Michelle, 39 iselder ar ôl i'w mab Ethan gael ei eni yn 2004.
Roedd ei wraig wedi gorfod cael genedigaeth Gesaraidd ar ôl bod ar esgor am 24 awr.
Efallai o ddiddordeb...
Dywedodd fod edrych ar ôl ei wraig a'u babi wedi achosi "gorbryder" iddo a doedd o ddim yn gallu siarad am ei deimladau.
"Fe wnaeth e achosi straen ar ein perthynas ond doeddwn i ddim yn gallu siarad gyda ffrindiau am y peth. Doedden nhw ddim yn gwybod beth oedd yn bod ac mi o'n i wedi newid," meddai.
"O'n i'n oriog a 'dw i fel arfer yn ddyn hapus. O'n i yn yfed mwy i geisio peidio meddwl am bethau.
"Mi oedd yna bwysau ymhobman. O'n i yn teimlo llawer o rwystredigaeth.
"Dw i'n cofio o'n i mewn maes parcio un diwrnod a nes i jest torri lawr a dechrau llefain."
Mae'n pryderu yn benodol bod pobl ddim yn sylwi ar yr arwyddion bod dynion yn dioddef o iselder ar ôl geni yn ddigon cynnar.
Mae eisiau i'r canllawiau meddygol sy'n cael eu rhoi gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth ym maes Iechyd a Gofal (NICE) i weithwyr iechyd adlewyrchu'r potensial y gallai dynion ddatblygu iselder ar ôl genedigaeth eu plant.
"Dw i'n gwybod am rhai tadau sydd wedi gweld genedigaeth drawmatig ac yna wedi cael iselder.
"Dyw hynny ddim yn cael ei amlygu tan eu bod nhw yn ôl ar y ward geni flynyddoedd wedyn ar gyfer genedigaeth plentyn arall."
Gwared â'r stigma
"Mae'r arogl penodol ar y ward yn dod nôl ato mewn eiliad a'r straen ynghlwm a'r peth ac mae'n torri lawr ar yr union adeg pan mae ei angen fwyaf."
Ym mis Tachwedd bydd Mr Williams yn siarad gyda gwleidyddion ac arbenigwyr iechyd meddwl yn Nhŷ'r Cyffredin mewn digwyddiad i godi ymwybyddiaeth.
Y nod yw cael gwared â'r stigma mae rhai sy'n cael iselder cyn ac ar ôl genedigaeth yn teimlo.
Dywedodd llefarydd ar gyfer mudiad iechyd meddwl MIND Cymru fod cael babi yn "newid mawr i fywydau mamau a thadau" ac yn gallu effeithio iechyd meddwl.
"Rydyn ni yn gwybod fod dynion 50% yn llai parod i siarad gyda ffrindiau am broblemau o'i gymharu gyda merched, a dim ond 31% o ddynion fyddai yn trafod pryderon gyda pherthnasau.
"54% yw'r ffigwr i ferched.
"Mae dynion llawer fwy tebygol i ddibynnu yn llwyr ar eu cymar, os ydyn nhw yn dibynnu ar unrhyw un. Mae hynny yn golygu bod yna fwy o beryg bod dynion yn teimlo yn ynysig."
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru mae iechyd meddwl dynion yn "gallu chwarae rôl bwysig yn llesiant cyffredinol y teulu a'r fam ond yn fwy penodol llesiant y babi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2017