Tad ar chwâl
- Cyhoeddwyd
Ar ôl genedigaeth ei fab ddeuddeg mlynedd yn ôl, aeth byd un tad ar chwâl.
"Rwy'n cofio cael breuddwydion ar y pryd am fy ngwraig a fy mab bach. A'u bod nhw wedi marw yn y theatr," meddai Mark Williams, sy'n 43 oed o Ben-y-bont ar Ogwr.
"Ro'n i'n cael meddyliau byw o weld y cyllyll ar y bwrdd, wrth fy ymyl i."
Byddai'n deffro gan feddwl fod ei feddyliau'n hollol wir, meddai, wrth gofio'n ôl i'r cyfnod ar ôl geni ei blentyn cyntaf.
Mae 19 Mehefin yn nodi diwrnod rhyngwladol iechyd meddwl i dadau.
Er mai gyda merched fyddai rhywun fel arfer yn cysylltu iselder ôl-geni, neu post-natal depression, mae dynion hefyd - gan gynnwys Mark - yn dioddef.
"Yn anffodus, aeth [fy ngwraig] Michelle ymlaen i ddioddef o iselder ôl-geni difrifol iawn, ac fe wnaeth hynny siglo fy myd, a newid pethau'n llwyr," meddai Mark.
Roedd e'n enedigaeth hynod o drawmatig, a chafodd ei wraig ei rhuthro i'r theatr yn sydyn er mwyn cael genedigaeth Gesaraidd.
"Yn amlwg, roedd gen i ofn mawr. Ro'n i'n meddwl ei bod hi'n mynd i farw. Ond roedd hi a fy mab bach newydd, Ethan, yn iawn, diolch byth," meddai.
"Ond yr hyn ddaeth i'r amlwg ar ôl ychydig o amser ar ôl genedigaeth Ethan oedd bod fy ngwraig yn dioddef o gor-bryder ac iselder."
Mwy o straeon am iechyd meddwl
Nid yw bob tro'n hawdd i fyw gyda chymar sy'n dioddef o iselder, meddai. Mae'n gallu bod yn straen.
Ag yntau'n 30 oed ar y pryd, doedd ganddo ddim syniad beth oedd y salwch.
"Do'n i ddim yn adnabod neb a oedd yn dioddef o iselder ôl-geni, nag iselder nag unrhyw fath o salwch meddwl, a bod yn onest," meddai Mark Williams.
"Ro'n i mor annysgedig am iechyd meddwl, ac arfer meddwl: 'Sut all pobl ddioddef o iselder?'"
Yr arwyddion
O fewn wythnosau i enedigaeth ei fab, bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w swydd er mwyn gofalu am Michelle ac Ethan.
"Ro'n i'n arfer dwlu ar yr ochr gymdeithasol o fy swydd i, ac ar ôl gorffen, ro'n i wedi fy ynysu'n llwyr."
Wrth edrych yn ôl, roedd angen uned mam a'i phlentyn ar Michelle.
"Ond yn anffodus, doedd gyda ni ddim syniad bod y fath beth yn bodoli," meddai.
"Roedd rhaid i mi fod yn gryf er mwyn gofalu amdani hi, a fy mab bach. Ond mewn gwirionedd, do'n i ddim mewn hwyliau da chwaith."
Wrth edrych yn ôl ar bethau, roedd yr arwyddion yna. Roedd ganddo iselder ôl-geni.
"Roedd yr enedigaeth drawmatig ac iselder ôl-geni fy ngwraig yn ffactorau enfawr wnaeth arwain at fy mhroblemau innau," meddai Mark.
Cadw'n dawel oherwydd stigma
Yn ystod misoedd cyntaf ei blentyn, roedd hi'n dywyll iawn arno, ac fe gafodd e nifer o feddyliau ofnadwy.
Ond doedd hi ddim yn opsiwn i ymddiried yn neb.
"Ro'n i eisiau lladd fy hun... doedd dim byd yn gallu pylu'r meddyliau yna," meddai.
"Wnes i fyth ofyn am help. Wnes i jest cadw'n dawel, yn sgil y stigma. Wnaeth fy iechyd meddwl ddirywio gymaint.
"Rwy'n cofio siglo nôl a 'mlaen ar gadair, a heb yn wybod i mi, wnaeth fy mam yng nghyfraith fy ngweld i.
"Dywedodd hi y byddwn i'n OK. Y cyfan ro'n i eisiau oedd gweld Michelle yn gwella, wnes i ofyn iddi gadw'n dawel am fy mhroblemau fy hun, rhag ofn y byddai hi'n cael ei heffeithio, a bod ei chyflwr meddyliol hithau'n gwaethygu."
Ar ôl cael cymorth swyddogol, cafodd dabledi a chwnsela.
"A digwydd bod, ges i ddiagnosis bod gen i ADHD hefyd, cyflwr sydd wedi bod yn rhan ohona i ers o'n i'n blentyn medden nhw," meddai Mark.
Y niwl yn codi
Ar ôl cyfnod o ddioddef, roedd e'n awyddus iawn i ryw ddaioni i ddod allan o frwydr negyddol, meddai, ac ers 2011 mae Mark Williams wedi bod yn ymgyrchu dros famau a thadau sy'n dioddef o iselder ôl-geni, yn ogystal ag iselder.
"Dwi eisiau gweld pob rhiant yn cael cefnogaeth. Mae'n angenrheidiol," meddai.
"Erbyn hyn dwi wedi sefydlu International Fathers' Mental Health, dolen allanol, sy'n codi ymwybyddiaeth, yn addysgu ac yn cynnig adnoddau i'r teulu cyfan.
"Ar ôl siarad gyda dros ddwy fil o dadau ym mhob cwr o'r byd, boed hynny mewn grwpiau cefnogi ac ar gyfryngau cymdeithasol, dwi wedi dysgu bod hi'n bwysig trafod, a thaclo'r broblem.
"Os mai dim ond y tad sy'n dioddef hyd yn oed, mae'r teulu cyfan yn goddef."
Mae mor bwysig i gofio bod tadau, yn ogystal â mamau, yn gallu dioddef o salwch meddwl ar adeg a ddylai fod yn hapus iawn.
"Rhaid sicrhau bod dynion yn siarad am eu teimladau, ac yn dod i adnabod y symptomau yn gynt," meddai Mark.
"O gael cymorth yn gynt, mae modd gwella yn gynt. Rhaid i weithwyr iechyd proffesiynol hefyd sicrhau bod tadau'n cael yr hawl i agor eu calonnau, a dweud sut maen nhw'n teimlo, er mwyn ceisio cadw'n iach, a chefnogi'r mamau."
Stori: Llinos Dafydd