Prifysgol Aberystwyth i gael gwared ar 11 o swyddi

  • Cyhoeddwyd
Aberystwyth University
Disgrifiad o’r llun,

Prifysgol Aberystwyth yn ceisio arbedion o £6m

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi dweud y bydd cyfanswm o 11 o swyddi academaidd yn cael eu colli o bum adran wahanol wrth i'r sefydliad geisio gwneud arbedion o £6m yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.

Mae gan y brifysgol bron i 800 o staff academaidd.

Mewn llythyr i aelodau staff ysgrifennodd yr Athro Elizabeth Treasure, yr is-ganghellor: "Yn amodol ar ymgynghoriad gyda'r staff a'r undebau byddai'r cynigion y cytunwyd arnynt yn arwain at golled o 11 o swyddi yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu; Addysg; IBERS; Gwasanaethau Gwybodaeth, a Chynllunio."

Dywedodd yr Athro Treasure y bydd cynigion penodol yn cael eu llunio nawr ac y bydd ymgynghori arnyn nhw.

Arbedion

Mae'r llythyr hefyd yn dweud bod y brifysgol wedi gwneud cynnydd wrth leihau costau yn y misoedd diwethaf.

Mae £2.3m wedi ei arbed ar gyflogau o ganlyniad i staff yn ymddeol yn gynnar neu'n cymryd diswyddiad gwirfoddol.

Yn ôl y llythyr, mae arbedion eraill - sydd ddim yn ymwneud â chyflogau - o £1.7m wedi'u gwneud.

Mae hynny'n gadael £2m arall sydd ei angen yn y flwyddyn ariannol yma, a £5.4m o arbedion pellach yn ystod y flwyddyn ariannol 2018/19.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y brifysgol y bydd cyfnod o ymgynghori ar y diswyddiadau

Mae'r BBC yn deall fod mwyafrif yr 11 o swyddi yn debygol o gael eu colli o'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Aberystwyth, "Nid oes unrhyw gynlluniau gradd yn cael eu diddymu o ddarpariaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, ac ni fydd yr argymhellion dan sylw yn arwain at unrhyw newidiadau sylfaenol i'r hyn a gynigir i fyfyrwyr.

"Mae ymroddiad yr adran i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn parhau."