Cwpan y Byd 2019: Merched Rwsia 0-0 Cymru

  • Cyhoeddwyd
CymruFfynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd tîm cenedlaethol merched Cymru gêm gyfatal ddi-sgôr yn Rwsia ddydd Mawrth yn eu hail gêm yn yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2019.

Daeth cyfle cynnar i Natasha Harding, ond llwyddodd y golwr Tatyana Shcherbak i arbed yn wych.

Yn fuan wedi hynny tro golwr Cymru oedd hi i achub ei thîm, wrth i Laura O'Sullivan wthio peniad Elena Danilova ar y postyn.

Roedd hi'n ail hanner distawach, gydag Ekaterina Pantyukhina â'r ergyd orau o gic gosb.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru'n mynd i frig Grŵp 1 ar bedwar pwynt, un ar y blaen i Loegr a Bosnia-Herzegovina ond wedi chwarae un gêm yn fwy.

Bydd Cymru yn herio Kazakhstan a Bosnia fis nesaf wrth iddyn nhw geisio cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf yn Ffrainc yn 2019.