'Dim consensws' cyhoeddus am Brexit medd ymchwil
- Cyhoeddwyd
Mae rhaniadau yn parhau ymysg etholwyr ynglŷn â'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd.
Pleidleisiodd Cymru o blaid gadael yr UE yn refferendwm y llynedd, yn unol â'r canlyniad ar draws y DU.
Ond mae'r ymchwil yn awgrymu nad yw nifer o bobl wedi newid eu meddwl dros y 18 mis diwethaf.
Fe wnaeth YouGov holi 3,014 o bobl rhwng 23 Mehefin a 5 Gorffennaf eleni ar ran Canolfan Llywodraethiant Cymru.
Wrth i Lywodraeth Prydain ymdrechu i gyrraedd cytundeb â gweddill yr UE ynglŷn â thermau gadael a'r bil terfynol, mae 'na hollt clir ynghylch y ffordd ymlaen.
Mae'r mwyafrif o'r sawl wnaeth bleidleisio i adael, 78%, yn dymuno gweld rheolaeth lwyr dros fewnfudo a deddfwriaeth yn dychwelyd i Lywodraeth Prydain, hyd yn oed ar draul cytundeb masnach rydd â'r UE.
Ar y llaw arall mae 63% o'r sawl wnaeth bleidleisio i aros yn 2016 yn dymuno aros o hyd neu i gael rhyw fath o aelodaeth wannach o'r UE.
Yn yr un modd mae 82% o'r sawl wnaeth bleidleisio i aros yn disgwyl i Gymru fod ar ei cholled, o'i gymharu â 24% o'r sawl wnaeth bleidleisio i adael.
Dim consensws
Dywedodd yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru: "Dyw'r darlun yma ddim yn un positif iawn.
"Prin yw'r awgrymiadau fod yna unrhyw gonsensws cyhoeddus yn tyfu ynghylch Brexit.
"Dydyn ni ddim yn dod at ein gilydd, chwedl y prif weinidog, ond yn parhau i fod yn rhanedig dros ben.
"Nid yn unig mae'r sawl oedd yn dymuno aros neu adael yn dyheu gweld pethau gwahanol o ganlyniad i Brexit - maen nhw hefyd yn disgwyl canlyniadau tra gwahanol.
"Mae'r rhaniad hefyd yn amlwg ynglŷn â'r broses wleidyddol - sut y dylid mynd i'r afael a Brexit."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2017