'Gwrthdaro buddiannau' Banc Datblygu newydd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Arian

Mae ACau wedi clywed nad oes gan fanc busnes newydd Cymru yr hawl i wrthod ceisiadau am fenthyciadau gan gwmnïau o Loegr dim ond am y bydden nhw'n niweidio cwmni o Gymru.

Mae FW Capital, sydd yn rhan o Fanc Datblygu Cymru, yn cynnig cymorth i fusnesau dros Glawdd Offa.

Nhw sy'n gyfrifol am gyllid Pwerdy'r Gogledd, menter gweinidogion y DU i geisio hybu economi gogledd Lloegr.

Dywedodd AC Plaid Cymru, Adam Price fod yna "wrthdaro buddiannau" gyda Banc Datblygu Cymru. Mae'r banc wedi cael cais am sylw.

Cystadleuaeth

Llynedd cafwyd beirniadaeth yn dilyn cyhoeddiad y byddai FW Capital yn cynnig rheoli rhan o'r gyllideb £400m ar gyfer cwmnïau yng ngogledd Lloegr.

Mae gan FW Capital dîm o reolwyr cronfeydd arian yn gweithredu yng ngogledd orllewin a gogledd ddwyrain Lloegr ers 2010.

Ond maen nhw'n dweud y byddai unrhyw elw sy'n cael ei wneud yn Lloegr yn cael ei ddefnyddio i dalu am gostau corff Cyllid Cymru.

Fe wnaeth Banc Datblygu Cymru gymryd cyfrifoldeb dros waith Cyllid Cymru yr wythnos diwethaf.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd swyddogion Banc Datblygu Cymru eu holi gan Adam Price ac ACau eraill ddydd Mercher

Yn ystod cyfarfod o bwyllgor economi'r Cynulliad fe ofynnodd Mr Price a fyddai "effaith niweidiol posib o fuddsoddiad i fusnes Saesnig drwy FW Capital" yn cael ei ystyried fel "ffactor berthnasol fyddai'n effeithio ar benderfyniad".

Yn ei ymateb dywedodd Michael Owen, cyfarwyddwr buddsoddiad grŵp y banc datblygu: "Allwn ni ddim, achos mae gennym ni ddyletswydd i'r banc busnes Prydeinig sy'n rheoli'r cyllid hwnnw sy'n gorfod gwneud y penderfyniadau buddsoddi."

Ychwanegodd y prif weithredwr, Giles Thorley: "Ddylai dim un busnes fod ofn cystadleuaeth, a dylai busnesau fod yn barod i ddelio â chystadleuaeth mewn marchnad arferol."

Yn gynharach fe awgrymodd swyddog arall, Gareth Bullock, y byddai buddsoddiadau yng ngogledd Lloegr yn "bwydo mewn i economi Cymru".

'Cyfaddefiad syfrdanol'

Yn dilyn y cyfarfod fe ddywedodd Mr Price: "Mae hyn yn gyfaddefiad syfrdanol gan gynrychiolwyr Banc Datblygu Cymru sydd yn amlygu achos clir o wrthdaro buddiannau.

"Cafodd Llywodraeth Lafur Cymru eu rhybuddio yn erbyn hyn yn y dystiolaeth arbenigol oedd yn rhan o Adolygiad Mynediad i Gyllid yr Athro Dylan Jones-Evans, ble rybuddiodd e na ddylai'r banc reoli cyllid oedd wedi'i leoli yn Lloegr er mwyn osgoi gwrthdaro buddiannau.

"Oherwydd penderfyniad 'styfnig yr ysgrifennydd cabinet Llafur ar yr economi i anwybyddu'r cyngor yma, ry'n ni nawr mewn sefyllfa wrthnysig ble mae'n banc datblygu ni yn cyfaddef na fyddai ganddyn nhw ddewis ond gweithio yn erbyn buddiannau'r cwmnïau Cymreig y maen nhw i fod i wasanaethu."