'Dim gwerth' trosglwyddo cyfrifoldebau'r comisiynydd
- Cyhoeddwyd
Ni fyddai gwerth trosglwyddo'r cyfrifoldeb dros ymchwilio i gwynion ynghylch y Gymraeg i'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.
Mewn ymateb i ymgynghoriad ar ddiddymu rôl y comisiynydd yn ddiweddar, awgrymodd yr Ombwdsmon Nick Bennett y gallai ddatrys cwynion yn gynt na'r system bresennol, sy'n "or-fiwrocrataidd a chymhleth".
Ond wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Cynulliad fore Iau, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws y byddai ei swyddfa hi'n "colli arf" pe bai'r cyfrifoldeb hwnnw'n cael ei drosglwyddo i swyddfa Mr Bennett.
'Colli arf'
Dywedodd Ms Huws: "Dwi'n hapus i dderbyn cymorth wrth unrhyw un wrth gwrs, ac yn falch bod ganddo fe ddiddordeb, ond os ydych chi'n edrych ar yr hyn ry'n ni'n ceisio ei wneud wrth ddelio gyda chwynion, mae e ychydig yn wahanol i be' mae'r Ombwdsmon yn ei wneud.
"Be' mae'r Ombwdsmon yn ei wneud yw ceisio unioni rhywbeth sy' wedi mynd o'i le rhwng unigolyn a sefydliad a gwneud yn iawn am hynny.
"Mae yna o elfen o hynny'n digwydd gyda chwynion ry'n ni'n delio gydag ond beth mae'r cwynion yn gwneud i ni hefyd yw rhoi tystiolaeth gadarn, gyfoethog ynglŷn â'r sefydliad yn ei gyfanrwydd, ac felly i ni mae'n hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg yng Nghymru'n gyffredinol.
"Mae cwynion yn eistedd yn gyfforddus ochr yn ochr gyda'r gwaith monitro ni'n 'neud, y cyswllt dyddiol gyda sefydliadau.
"Felly trwy dynnu cwynion i ffwrdd a'u gosod gyda sefydliad arall, bydden ni'n colli darn o'r pecyn yna o adnoddau sydd 'da ni i greu newid, felly dwi ddim yn gweld ei werth oherwydd bydden ni'n colli arf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Awst 2017
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2017