Y Cŵps yn Aberystwyth yn paratoi ar gyfer parti ffarwel

  • Cyhoeddwyd
coopers armsFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y Cŵps yn cau ddiwedd y mis

Mae'n un o dafarndai enwocaf yn ei thro ond nawr, fe fydd y Cŵps yn Aberystwyth yn cau.

Bydd yn cael ei gofio fel un o brif lefydd cyfarfod Cymry'r ardal a myfyrwyr y colegau.

Hwn fydd penwythnos olaf y Cŵps, ac ar ôl parti nos Sadwrn fe fydd y drysau'n cau yn derfynol ar ddiwrnod ola'r mis.

Dyw Bragdy Felinfoel, perchnogion yr adeilad, ddim wedi llwyddo i ddod o hyd i denantiaid newydd ar ôl i'r hen denantiaid roi'r gorau iddi.

Mae'r Cŵps, neu'r Coopers Arms, wedi bod yn enwog am ei gysylltiad gyda'r sin gerddorol yng Nghymru.

Roedd hefyd yn adnabyddus am ei gymeriadau tu ôl i'r bar, gan gynnwys Elfed Evans oedd yn berchen ar y dafarn yn yr 80au a'r 90au

Disgrifiad o’r llun,

Ar ei anterth roedd y Cŵps yn gyrchfan boblogaidd i gerddorion

Dywedodd Geraint Evans, sydd wedi bod yn gyfrifol am y dafarn ers 2006, ei fod yn parhau'n obeithiol y bydd rhywun yn cymryd ei le.

"Chwe mis yn ôl fe ddywedom ni wrth Felinfoel y bwriad oedd symud ymlaen. Mae'n amser i rywun newydd i weld be allan nhw ei wneud," meddai.

"Ma' fe'n le arbennig iawn, dwi'n cofio dod mewn, amser Elfed yn y 80au a'r 90au - roedd e'n amser gwych.

"Ma' fe wedi newid ers hynny ond ma' fe dal yn dafarn Cymraeg, ma' croeso Cymraeg a'r identity yn Gymraeg.

Disgrifiad,

Lyn Ebenezer yn cofio dyddiau da y Cwps

Cyrchfan boblogaidd

Un o selogion y Cŵps ar ei anterth oedd yr awdur a'r darlledwr Lyn Ebenezer.

"Ro'n i'n byw yn groes i'r adeilad ar riw Penglais ac ma' gen i ryw feddwl mod i wedi treulio mwy o amser yn y Cŵps am ryw 10 mlynedd na nes i yn fy nhŷ fy hunan," meddai.

"Oedd cyn warden [Neuadd] Pantycelyn, y diweddar John Davies wastad yn cyrraedd tua 10:50 - ond oedd e'n gwybod fod dim cloch yn canu.

"Oedd Meic Stevens yna o leiaf unwaith y mis, pe bai o'n canu yna neu beidio."

Disgrifiad,

Elin Jones yn hel atgofion am dafarn y Cŵps

Dywedodd Glynis Summers, un arall o gyn-reolwyr y dafarn, fod ganddi hi hefyd atgofion melys ac yn cofio'r cyfnod pan oedd Aberystwyth yn 'sych' ar y Sul.

"Bob dydd Sul - ro'n i'n sych ar y pryd ac o nhw i gyd yn y Cŵps ac oedd yr heddlu yn gyson mewn, a bydde nhw'n dweud 'moving the piano again are we?'.

"A bant â nhw."

Dywedodd llefarydd ar ran Bragdy Felinfoel eu bod wedi bod yn holi am denantiaid newydd, ond er bod rhai wedi dangos diddordeb doedd dim cynnig pendant wedi ei dderbyn hyd yma.