Cyhoeddi enw bachgen wedi marwolaeth Gwytherin

  • Cyhoeddwyd
Morgan Miller-SmithFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhoeddi enw bachgen maen nhw'n credu fu farw ar ôl cymryd cyffuriau mewn digwyddiad yng Ngwytherin ger Llanrwst.

Bu farw Morgan Phillip Miller-Smith, 16 o Gonwy, yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan yn oriau mân y bore ddydd Sul.

Roedd wedi'i gludo i'r ysbyty yn dilyn galwad i'r gwasanaethau brys am 01:11 fod y bachgen wedi'i daro'n wael yn ystod parti Calan Gaeaf.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn credu ar hyn o bryd ei fod wedi cymryd tabledi pinc, sgwâr oedd yn debyg i ecstasi, gyda symbol Rolls Royce ar un ochr a 200mg ar yr ochr arall.

'Annwyl, doniol a charedig'

Mewn teyrnged ar eu tudalen Facebook dywedodd siop goffi a llyfrau L's yng Nghonwy, ble roedd Morgan Miller-Smith yn gweithio, fod ei farwolaeth yn "drasiedi trychinebus".

"O ganlyniad 'dyn ni wedi colli un o'r dynion ifanc mwyaf annwyl, doniol a charedig rydw i erioed wedi ei gyfarfod," meddai neges ar y dudalen.

"Mae bywyd ifanc trasig wedi ei gymryd oddi wrthym ni yn llawer cynt na 'dyn ni'n teimlo roedd Duw yn ei fwriadu.

"Mae'r holl deulu Miller-Smith yn gweithio yma yn L's ac rydyn ni'n ystyried ein hunain yn un teulu mawr, felly gallwch ddychmygu fod hyn wedi ein taro ni'n galed."

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu wedi rhybuddio am effaith y tabledi ecstasi yma

Dywedodd pennaeth Ysgol Aberconwy, ble roedd Morgan Miller-Smith yn ddisgybl chweched dosbarth, eu bod yn "drist ofnadwy" o glywed y newyddion am ei farwolaeth.

"Roedd Morgan yn ddisgybl poblogaidd yn yr ysgol ac yn uchel ei barch ymysg athrawon a'i gyd-ddisgyblion. Bydd colled fawr ar ei ôl gan bawb oedd yn ei adnabod," meddai Ian Gerrard.

Mae'r heddlu eisoes wedi rhybuddio unrhyw un sydd â thabledi o'r math gafodd eu disgrifio yn eu meddiant i beidio â'u cymryd.

Dywedodd perchennog y sgubor ble chafodd y parti ei gynnal, Elin Williams fod y digwyddiad "wedi ei drefnu'n iawn a'i drwyddedu'n llawn gan Gyngor Conwy".

Roedd tua 200 o bobl yn bennaf o ardal Llandudno a Bae Colwyn wedi eu cludo i'r digwyddiad, ddaeth i ben am hanner nos.

Ychwanegodd fod staff diogelwch a chymorth cyntaf ar y safle, a'u bod wedi sylwi ar berson ifanc oedd angen cymorth meddygol yn fuan wedi i'r digwyddiad orffen.

'Digwyddiad trasig'

Dywedodd yr uwch-arolygydd Gareth Evans o Heddlu'r Gogledd: "Mae'r digwyddiad yma wir yn un drasig ble mae bachgen ifanc wedi colli ei fywyd.

"Rydyn ni'n meddwl am ei deulu a'i ffrindiau yn y cyfnod anodd hwn ac mae swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth iddyn nhw.

"Hoffwn ofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth i ni i ddod yn eu blaenau a chysylltu â'r heddlu ar 101."

Mae disgwyl i archwiliad post mortem gael ei gynnal yn hwyrach ddydd Llun.