Cyffuriau'n ffactor ym marwolaeth bachgen yn Sir Conwy
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod marwolaeth bachgen mewn digwyddiad ger Llanrwst yn "gysylltiedig â chyffuriau".
Bu farw Morgan Phillip Miller-Smith, 16 o Gonwy, yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan yn oriau mân bore Sul.
Cafodd ei gludo i'r ysbyty yn dilyn galwad i'r gwasanaethau brys tua 01:10 fod bachgen wedi'i daro'n wael yn ystod parti Calan Gaeaf yng Ngwytherin.
Y gred yw ei fod wedi cymryd tabledi pinc, sgwâr oedd yn debyg i ecstasi, gyda symbol Rolls Royce ar un ochr a 200mg ar yr ochr arall.
Bachgen arall yn sâl
Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd yr heddlu bod profion post mortem wedi cadarnhau'r cysylltiad â chyffuriau.
Yn ôl yr Uwch-arolygydd Gareth Evans, roedd bachgen arall 16 oed hefyd yn "ddifrifol sâl yn gynharach y noson honno ar ôl cymryd cyffuriau yn yr un digwyddiad".
Ychwanegodd nad oedd y bachgen hwnnw "angen triniaeth ysbyty" a'i fod wedi "gwella'n llawn".
Mewn teyrnged ar eu tudalen Facebook dywedodd siop goffi a llyfrau L's yng Nghonwy, ble roedd Morgan Miller-Smith yn gweithio, fod ei farwolaeth yn "drasiedi trychinebus".
"O ganlyniad 'dyn ni wedi colli un o'r dynion ifanc mwyaf annwyl, doniol a charedig rydw i erioed wedi ei gyfarfod," meddai neges ar y dudalen.
"Mae bywyd ifanc trasig wedi ei gymryd oddi wrthym ni yn llawer cynt na 'dyn ni'n teimlo roedd Duw yn ei fwriadu.
"Mae'r holl deulu Miller-Smith yn gweithio yma yn L's ac rydyn ni'n ystyried ein hunain yn un teulu mawr, felly gallwch ddychmygu fod hyn wedi ein taro ni'n galed."
'Colled fawr ar ei ôl'
Dywedodd pennaeth Ysgol Aberconwy, ble roedd Morgan Miller-Smith yn ddisgybl chweched dosbarth, eu bod yn "drist ofnadwy" o glywed y newyddion am ei farwolaeth.
"Roedd Morgan yn ddisgybl poblogaidd yn yr ysgol ac yn uchel ei barch ymysg athrawon a'i gyd-ddisgyblion. Bydd colled fawr ar ei ôl gan bawb oedd yn ei adnabod," meddai Ian Gerrard.
Mae'r heddlu eisoes wedi rhybuddio unrhyw un sydd â thabledi o'r math gafodd eu disgrifio yn eu meddiant i beidio â'u cymryd.
Dywedodd perchennog y sgubor ble chafodd y parti ei gynnal, Elin Williams fod y digwyddiad "wedi ei drefnu'n iawn a'i drwyddedu'n llawn gan Gyngor Conwy".
Roedd tua 200 o bobl yn bennaf o ardal Llandudno a Bae Colwyn wedi eu cludo i'r digwyddiad, ddaeth i ben am hanner nos.
Ychwanegodd fod staff diogelwch a chymorth cyntaf ar y safle, a'u bod wedi sylwi ar berson ifanc oedd angen cymorth meddygol yn fuan wedi i'r digwyddiad orffen.