Honiadau cyn-AS o Gymru am aflonyddu rhywiol

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Betty Williams yn dweud bod ymddygiad y dynion yn "gwbl annerbyniol"

Mae cyn-AS Llafur yn honni bod gwleidyddion Ceidwadol wedi ymddwyn yn amhriodol tuag ati yn Nhŷ'r Cyffredin.

Yn ôl Betty Williams, fe wnaeth un cyn-AS Ceidwadol gyffwrdd yn ei bron tra bod y cyn-AS arall wedi gwasgu ei phen-glin.

Daw ei sylwadau yn sgil nifer o honiadau yn erbyn ASau.

Mae Carwyn Jones wedi galw am gyfarfod brys yn y Cynulliad, gan ddweud nad oes modd cymryd yn ganiataol "mai rhywbeth yn ymwneud â diwylliant San Steffan yn unig yw hyn".

'Edrych yn chwyrn'

Roedd Ms Williams yn AS Conwy rhwng 1997 a 2010 ac fe wnaeth hi drafod ei phrofiad ar raglen Taro'r Post ddydd Llun.

"Roedd 'na aelod seneddol Torïaidd blaenllaw, wedi bod yna ers blynyddoedd, a fo a fi wedi bod yn cymryd rhan mewn dadl yn y Siambr am yr un pwnc.

"Ac i drafod y peth ar y diwedd, daeth o ataf i i sgwrsio, a dyma fo'n rhoi ei law ar fy mhen-glin i a gwasgu. Y gair Saesneg i mi ywsuggestive.

"Doedd rhoi pat ar fy mhen-glin ddim yn dderbyniol, ond roedd o'n gwasgu. 'Nes i afael yn ei law o, ei wthio i ffwrdd, a sbïo i fyw ei lygad o ac edrych yn chwyrn arno fo.

"Doedd dim angen i fi ddweud dim byd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Liz Saville Roberts AS yn dweud ei bod yn gwybod am fenyw wnaeth gwyno am aflonyddu rhywiol - ond bod dim wedi'i wneud am y peth

Ychwanegodd: "Yr achos arall, eto dyn Torïaidd wedi bod yno am flynyddoedd, mi wnaeth o gyffwrdd fy mron i, ac roedd hynny mewn derbyniad.

"Meddyliwch nawr, reception swyddogol yn y tŷ, a gafodd o'r un driniaeth gen i â gafodd y llall, a ches i ddim trafferth efo fo wedyn."

Wnaeth Ms Williams ddim enwi'r unigolion.

'Siomedig iawn'

Dywedodd Llefarydd Tŷ'r Cyffredin wrth y Senedd ddydd Llun na ddylai unrhyw fath o aflonyddu rhywiol gael ei dderbyn.

Fe soniodd Liz Saville Roberts, AS Plaid Cymru, am fenyw oedd yn cael ei chyflogi gan AS arall oedd wedi cwyno am aflonyddu rhywiol yn gynharach eleni.

Dywedodd bod y fenyw wedi dweud wrth "yr awdurdodau cywir" ond bod dim wedi'i wneud am y peth.

Roedd y fenyw yn "siomedig iawn" ac yn "ddrwgdybus", meddai.

Mae arweinydd Tŷ'r Cyffredin, Andrea Leadsom wedi dweud y byddai'n fodlon edrych ar y gŵyn ei hun.