Grav yn Efrog Newydd
- Cyhoeddwyd
![Mae 'na ddeng mlynedd ers marwolaeth Ray Gravell](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/113A5/production/_98556507_6dd3afb9-b82c-46d3-b905-1fae71c86f5c.jpg)
Mae 'na 10 mlynedd ers marwolaeth y cyn-chwaraewr rygbi a'r darlledwr, Ray Gravell
Bydd sioe sy'n dathlu bywyd Ray Gravell yn cael ei llwyfanu yn Efrog Newydd y flwyddyn nesaf.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud ar 31 Hydref, ddeng mlynedd union ers marwolaeth y cyflwynydd a'r cyn-chwaraewr rygbi poblogaidd o Fynyddygarreg.
Theatr y Torch yn Aberdaugleddau wnaeth lwyfannu'r sioe yn wreiddiol gyda Gareth John Bale yn portreadu'r Cymru eiconig.
Cysylltiadau gyda'r dref yn Sir Benfro sy'n rhannol gyfrifol pam y bydd y sioe yn croesi'r Iwerydd.
![Gareth John Bale mewn golygfa deimladwy o'r sioe 'Grav'](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/173F9/production/_98552259_grav.jpg)
Gareth John Bale mewn golygfa deimladwy o'r sioe 'Grav'
Mae perchnogion tafarn Cantre'r Gwaelod (Sunken Hundred) yn Efrog Newydd yn hannu o Aberdaugleddau ac maen nhw wedi cydweithio gyda'r Actors Theatre Workshop yn Manhattan i sicrhau y bydd y sioe yn cael ei llwyfannu yno ar 16 a 17 Mawrth 2018.
Cyn y sioeau bydd 'na chydig o naws rygbi Cymru yn Cantre'r Gwaelod a bydd Gareth John Bale yn darllen rhannau o'r sgript.
![sunken 100](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/125D9/production/_98552257_sunken100.jpg)