Tân Llangamarch: Y chwilio yn parhau am weddillion
- Cyhoeddwyd
Bydd y chwilio am gyrff tad a phump o blant, y credir eu bod wedi marw mewn tân yn Llangamarch ym Mhowys, yn parhau ddydd Mercher.
Credir bod David Cuthbertson wedi marw yn y tân yn y ffermdy ddydd Llun ac y mae pum plentyn yn dal ar goll. Mae yna ofnau bod hwythau hefyd wedi marw.
Mae tri phlentyn arall, 10, 12 a 13 oed, a lwyddodd i ddianc o'r tân yn parhau yn yr ysbyty.
Mae swyddogion ymchwilio arbenigol yn ceisio canfod achos y tân tra bod swyddogion fforensig yn chwilio am weddillion.
Roedd Mr Cuthbertson, 68 oed, yn byw yn y ffermdy rhent gyda'i blant. Mae e wedi cael ei ddisgrifio gan ffrindiau fel dyn "carismataidd a chyfeillgar" ac yn ŵr a oedd yn ymroddedig i'w blant.
Mae'r heddlu wedi cadarnhau fod y dioddefwyr yn perthyn ond oherwydd y dinistr i'r adeilad dyw hi ddim wedi bod yn bosib iddynt enwi yn swyddogol y rhai sydd wedi marw.
Cafodd y digwyddiad ei godi yn San Steffan yn ystod sesiwn Cwestiynau'r Prif Weinidog ddydd Mawrth, a dywedodd Theresa May ei bod hi'n "anfon cydymdeimladau" i deulu a ffrindiau'r rheiny gafodd eu heffeithio.
"Roedd hwn wir yn drasiedi ofnadwy," meddai.
"Nid dim ond teulu gafodd eu heffeithio ond y gymuned gyfan hefyd, a dwi'n gwybod fod y gwasanaethau brys wedi gwneud gwaith clodwiw.
"Hoffwn ganmol eu gwaith a'u dewrder a'u proffesiynoldeb wrth ddelio â'r mater yma."
'Cymryd wythnosau'
Yn ôl y prif arolygydd Martin Slevin o Heddlu Dyfed Powys roedd y tân mor ffyrnig nes bod to, lloriau a muriau'r adeilad wedi disgyn.
Dywedodd bod y niwed yn sylweddol ac felly mae'n parhau i fod yn "andros o anodd" i enwi y rhai sydd wedi marw.
Mae gwyddonwyr arbenigol ac ymchwilwyr tân yn parhau i fod ar y safle ac y mae anthropolegydd fforensig hefyd wedi cael ei alw i gynorthwyo gyda'r gwaith o wahaniaethu rhwng cyrff dynol a gweddillion eraill.
Mae disgwyl i'r gwaith o adnabod y cyrff gymryd cryn amser.
Dywedodd Mr Slevin: "Dy'n ni ddim yn sôn am oriau a diwrnodau - mi all hi gymryd tan wythnos nesaf ac efallai wedi hynny."
Mae'r plant wnaeth ddianc yn cael cymorth aelodau o'r teulu a swyddogion yr heddlu. Yn y cyfamser mae tudalen cronfa i'w cynorthwyo wedi codi mwy na £10,000 mewn 24 awr.
Yr hyn a ddigwyddodd ar 30 Hydref
00:15 - Galw'r gwasanaethau brys i dân mewn tŷ oedd wedi datblygu'n sylweddol, tri o blant wedi llwyddo i ddianc;
03:00 - Galw Tîm Achub Mynydd Aberhonddu i chwilio'r tir o gwmpas y tŷ;
12:00 - Pryder bod nifer wedi marw yn y tân gyda nifer o bobl heb eu lleoli, timau arbenigol yn parhau i asesu'r sefyllfa;
16:00 - Cynghorydd Tim Van-Rees yn dweud bod un o'r plant wedi rhoi gwybod am y tân;
17:00 - Uwch-Arolygydd Richard Lewis yn dweud bod nifer o farwolaethau ond nad oes modd cadarnhau niferoedd oherwydd y difrod;
20:30 - Un o'r bobl y credir oedd yn y tŷ pan ddigwyddodd y tân yn cael ei enwi'n lleol fel David Cuthbertson.