Lyncs ar goll yng Ngheredigion yn 'agosáu' at gael ei dal
- Cyhoeddwyd
Mae'r gath fawr sydd wedi dianc o sŵ yn Borth ger Aberystwyth yn "agosáu at gael ei dal".
Yn ôl perchnogion y sŵ maen nhw'n monitro symudiadau'r lyncs ar ôl iddi gael ei gweld sawl gwaith yn ddiweddar.
Yn ôl y sŵ mae'n ymddangos fod y gath "mewn iechyd da" ac yn fodlon ei byd.
Mae sawl trap wedi eu gosod yn yr ardal ac mae llefarydd ar ran y sŵ wedi apelio ar bobl i gadw draw gan "ei fod gymaint yn haws tracio ei symudiadau os nad oes pobl gerllaw".
Fe lwyddodd y gath, sydd tua dwywaith yn fwy na chath gyffredin, ddianc rhywbryd yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
Mae'r perchnogion yn credu fod y gath wedi neidio dros ffens trydan.
Fe gaewyd y sŵ yn dilyn y digwyddiad ac mae'r heddlu wedi rhybuddio pobl yn yr ardal i fod yn ofalus.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2017