Sesiynau cynghori am secstio i gannoedd o bobl ifanc Cymru

  • Cyhoeddwyd
plant ar ffonauFfynhonnell y llun, AndreyPopov

Mae elusen blant yn dweud eu bod wedi gorfod cynnal dros 200 o sesiynau cynghori am secstio gyda phobl ifanc yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ychwanegodd NSPCC Cymru mai dyna'r pwnc sydd bellach yn cael ei ddarllen fwyaf aml ar wefan Childline.

Daw hynny yn sgil pryderon cynyddol dros y blynyddoedd diwethaf ynglŷn â phobl ifanc yn gyrru lluniau noeth o'u hunain i eraill.

Mae'r elusen yn dweud eu bod wedi datblygu ap newydd sy'n galluogi'r defnyddiwr i ddefnyddio hiwmor wrth ymateb i bobl sydd yn ceisio eu perswadio i anfon lluniau.

'Dim rheolaeth'

Yn 2016/17 fe wnaeth canolfan Childline ym Mhrestatyn gynnal 154 o sesiynau cynghori am secstio, gyda'r ganolfan yng Nghaerdydd yn cynnal 49.

Yn ystod yr un flwyddyn cafodd tudalennau gwefan Childline ar secstio dros 220,000 o ymweliadau ar draws y DU.

Mae ap Zipit yn cynnig ystod eang o ddelweddau a lluniau wedi'u hanimeiddio (GIFs), y mae modd eu hanfon fel ymateb i rywun sydd yn gofyn am luniau anweddus.

Yn ogystal â hynny mae'r ap yn cynnwys cyngor ar beth i'w wneud os yw pobl yn poeni am ddelwedd maen nhw wedi ei rhannu.

Des Mannion, NSPCC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Des Mannion o NSPCC Cymru yn dweud fod pobl ifanc yn aml ddim yn siŵr sut i ddweud na i geisiadau am luniau

"Mae llawer o bobl ifanc yn dweud wrth Childline eu bod yn teimlo dan bwysau i anfon lluniau rhywiol o'u hunain, a ddim wastad gyda'r hyder i ddweud na," meddai Des Mannion, pennaeth NSPCC Cymru.

"Unwaith mae person ifanc yn anfon llun o'u hunain does ganddyn nhw ddim rheolaeth dros ble mae'n cael ei rannu a phwy sy'n ei weld, ac weithiau mae'r lluniau yn gallu bennu lan ar-lein.

"Mae hyn yn gallu gadael y plentyn yn teimlo wedi eu bychanu, neu hyn yn oed arwain atyn nhw'n cael eu bwlio neu flacmelio.

"Wrth ddefnyddio hiwmor mae Zipit yn helpu pobl ifanc i gymryd rheolaeth o'u sgyrsiau ar-lein sydd yn mynd yn lletchwith neu yn eu rhoi dan bwysau, a'u cefnogi os yw rhywbeth yn mynd o'i le."