Dewis carol Gymraeg ar gyfer cyngerdd Nadolig Coleg Kings
- Cyhoeddwyd
Eleni bydd carol Gymraeg yn cael ei pherfformio yng nghyngerdd enwog Noswyl Nadolig Coleg Kings yng Nghaergrawnt.
Mae traddodiad o ganu carol newydd yn dyddio'n ôl i'r flwyddyn 1983, a'r syniad yw bod cyfansoddwr gwahanol yn cyfansoddi carol arbennig ar gyfer y cyngerdd.
Eleni, tro'r Cymro, Yr Athro Huw Watkins, oedd yn arfer bod yn fyfyriwr yn y coleg yw hi i gyfansoddi'r garol ar gyfer 'Gŵyl Naw o Wersi a Charolau'.
Mae Mr Watkins erbyn hyn dysgu yn y Coleg Cerdd Brenhinol a dywedodd ei fod wedi gofyn am gymorth gan ei fam sy'n siarad Cymraeg cyn mynd ati i gyfansoddi.
"Fel Cymro Di-Gymraeg roeddwn yn edrych ymlaen at yr her pan ofynnwyd i mi gyfansoddi carol Gymreig.
"Mae fy mam sy'n siarad Cymraeg wedi bod yn gymorth i mi gyda sŵn rhai geiriau," meddai.
Bydd y garol yn cael ei chlywed yn gyntaf noswyl Nadolig ac mae'r cyngerdd yn cael ei ddarlledu'n rhyngwladol ar donfeddi'r World Service a BBC Radio 4.