Erlyn dau wedi marwolaethau milwyr Bannau Brycheiniog

  • Cyhoeddwyd
Milwyr

Mae dau filwr SAS wedi eu cyhuddo o esgeulustod yn dilyn marwolaethau tri milwr ar gwrs hyfforddi'r SAS ym Mannau Brycheiniog.

Bu farw'r Corporal James Dunsby, yr Is-gorporal Craig Roberts a'r Is-gorporal Edward Maher yn ystod yr ymarferiad ym mis Gorffennaf 2013, ar un o ddiwrnodau poethaf y flwyddyn.

Fe wnaeth adroddiad i'r marwolaethau ganfod bod y fyddin wedi methu â chynllunio'n iawn ar gyfer tywydd cyfnewidiol.

Fe gadarnhaodd Awdurdod Erlyn y Lluoedd Arfog fod cyhuddiadau o berfformio dyletswyddau'n esgeulus wedi eu dwyn yn erbyn dau o'r milwyr oedd yno ar y pryd.

'Hyfforddi recriwtiaid'

Bydd yr achos yn cael ei glywed gan lys milwrol, ac uchafswm y ddedfryd fyddai dwy flynedd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Bydd unrhyw benderfyniad i erlyn personél, yn filwyr presennol neu wedi ymddeol, yn cael ei wneud gan gorff annibynnol Awdurdod Erlyn y Lluoedd Arfog."

Roedd Awdurdod Erlyn y Lluoedd Arfog wedi penderfynu yn erbyn cymryd camau yn erbyn y ddau i ddechrau, ond fe wnaeth aelodau o deuluoedd y dynion fu farw ofyn am ailedrych ar yr achos.

Mewn datganiad dywedodd teulu Craig Roberts, un o'r milwyr fu farw, eu bod yn "siomedig" mai dim ond dau ddyn oedd wedi eu cyhuddo.

"Rydyn ni'n teimlo y dylai llawer mwy gael eu dwyn i gyfrif am nifer y methiannau'r diwrnod hwnnw," meddai'r teulu.