Cerydd i'r fyddin am farwolaethau milwyr yn y Bannau

  • Cyhoeddwyd
Corporal James Dunsby, yr Is-gorporal Edward Maher a'r Is-gorporal Craig RobertsFfynhonnell y llun, PA/MOD
Disgrifiad o’r llun,

Corporal James Dunsby, yr Is-gorporal Edward Maher a'r Is-gorporal Craig Roberts

Bydd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn cael Cerydd y Goron wedi marwolaeth tri milwr yn ystod ymarferiad gyda'r SAS ym Mannau Brycheiniog yng Ngorffennaf 2013.

Bu farw'r Is-gorporal Craig Roberts o Fae Penrhyn ger mynydd Pen-y-Fan a bu farw dau filwr arall, yr Is-gorporal Edward Maher a'r Corporal James Dunsby, yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Cyhoeddodd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) ddydd Mercher y byddai'r Weinyddiaeth yn cael ei cheryddu.

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi "cydnabod" y cerydd ac wedi ymddiheuro am eu methiannau.

Dyma'r weithred lymaf all y Gweithgor ei chyflawni yn erbyn un o sefydliadau'r Goron.

Fis Gorffennaf diwetha' daeth cwest i'r casgliad fod esgeulustod wedi bod yn ffactor ym marwolaethau'r tri milwr.

Daeth ymchwiliad gan yr HSE i'r casgliad fod y Weinyddiaeth wedi methu a chynllunio, asesu na rheoli'r risg yn gysylltiedig â salwch o ganlyniad i'r hinsawdd yn ystod yr ymarferiad.

Roedd y methiannau hyn wedi arwain at farwolaeth y tri milwr, a salwch gwres ymhlith 10 milwr arall fu'n rhan o'r orymdaith 16 milltir ar ddiwrnod poeth iawn yn 2013.

Cyfrifoldebau cyflogwr

Er bod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi'i gwarchod gan freintryddid y Goron, mae ganddi'n dal gyfrifoldebau fel cyflogwr i leihau'r risg i weithwyr gymaint ag sy'n ymarferol bosib.

Oni bai fod y sefydliad wedi'i warchod gan y Goron, byddai wedi wynebu achos llys am y methiannau ddaeth i'r amlwg.

Dywedodd Neil Craig, o'r HSE: "Mae angen i unedau milwrol arbenigol brofi ffitrwydd a gwydnwch ymgeiswyr posib yn drwyadl. Dyw iechyd a diogelwch ddim yn ymwneud ag atal pobl rhag gwneud gwaith peryglus neu fod wedi'u paratoi yn iawn i wneud dyletswyddau milwrol.

"Mae hyfforddiant milwrol yn ei hanfod yn beryglus. Ond mae angen rheoli unrhyw brofion yn effeithiol. Mae gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ddyletswydd i reoli risg yn ystod ymarferion. Methon nhw a gwneud hyn ar yr achlysur hwn.

"Ers y digwyddiad mae'r HSE wedi gweithio'n agos gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn i sicrhau fod gwersi wedi'u dysgu a sut ellir lleihau'r risg y bydd rhywbeth tebyg yn digwydd eto, heb gyfaddawdu ar neu newid natur galed yr hyfforddiant a'r profion angenrheidiol."

Yn ôl llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Rydyn ni'n cydnabod y cerydd ac wedi ymddiheuro am y methiannau a nodwyd gan y Crwner a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

"Mae sawl gwelliant wedi'i wneud i leihau'r risg ar y math yma o ymarferion, ac mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i ddarganfod unrhyw wersi pellach sydd i'w dysgu i atal trasiedi fel hon rhag digwydd eto.

"Mae ein meddyliau gyda theuluoedd a ffrindiau'r Corpral James Dunsby, yr Is-gorporal Craig Roberts a'r Milwr Edward Maher."