Elliw Gwawr: 'Fy mhrofiad i o aflonyddu mewn gwleidyddiaeth'

  • Cyhoeddwyd

Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Elliw Gwawr fu'n siarad â rhaglen Taro'r Post am ei phrofiadau hi yn sgil yr honiadau ynglŷn ag ymddygiad amhriodol gwleidyddion yn San Steffan.

Disgrifiad,

Aflonyddu rhywiol: 'Balans y grym yw'r broblem'

Fel rhywun sydd wedi gweithio yn y byd gwleidyddol ers rhai blynyddoedd, dyw'r honiadau diweddar ynglŷn ag aflonyddu rhywiol ac ymddygiad annerbyniol gan rai yn San Steffan ddim wedi fy synnu o gwbl.

Mae yna wastad sïon yn chwyrlio o gwmpas y lle yma, er 'dach chi byth yn sicr faint o wirionedd sydd i bob stori.

Ond dwi hefyd wedi siarad â nifer o fenywod am y profiadau amhleserus ac anghyfforddus maen nhw wedi'i gael gyda gwleidyddion, a dwi hefyd wedi bod mewn sefyllfa ble mae gwleidydd wedi ymddwyn yn amhriodol tuag ata'i.

Profiad anghyfforddus

Tra'n gweithio yn y Cynulliad fel newyddiadurwr ifanc roeddwn i'n rhannu tacsi gydag aelod hŷn a phriod, pan roddodd ei law ar fy nghlun mewn ffordd oedd yn awgrymu ei fod eisiau mynd ymhellach.

Fe ddaeth fel tipyn o sioc, ond fe wthiais ei law i ffwrdd yn sydyn a dweud yn glir iawn wrtho i beidio. Wnaethom ni erioed siarad am y peth eto.

Ond roedd yn brofiad anghyfforddus ac roeddwn i'n falch o gael gadael cyfyngder y tacsi ar ddiwedd y daith.

Fe gefais i brofiad arall rai blynyddoedd yn ddiweddarach ar ôl dechrau gweithio yn San Steffan.

Roeddwn i ar deras Tŷ'r Cyffredin yn cael diod gyda grŵp o wleidyddion (sydd ddim yn beth anghyffredin yn fy ngwaith i), a phan ddywedais fod rhai i mi fynd er mwyn dal y trên adref, fe gynigiodd un ohonyn nhw fy mod yn anghofio am y trên ac yn mynd i aros yn ei fflat o yn lle.

Fe ddywedais yn glir pa mor amhriodol oedd ei gynnig ac na fydden i'n gwneud ffasiwn beth, cyn ceisio symud y sgwrs ymlaen i bwnc arall.

'Beth fyddai'r pwynt cwyno?'

Dwi'n gwybod nad yw'r ddau achos yma yn ddifrifol iawn, a dwi'n gwybod bod nifer o fenywod a dynion wedi cael profiadau llawer gwaeth na mi.

Ond dwi'n credu ei fod yn bwysig fy mod i'n siarad am fy mhrofiadau hefyd, achos mae o'n enghraifft o'r diwylliant yma yn San Steffan, ac yn y Cynulliad, a'r awyrgylch mae menywod fel fi yn gweithio ynddo.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o gyhuddiadau wedi eu gwneud am wleidyddion yn San Steffan dros y dyddiau diwethaf

Roedd y profiad yn anghyfforddus ac yn sicr yn annerbyniol, ond wnes i ddim cwyno ar y pryd, achos beth fyddai'r pwynt? At bwy fydden i'n cwyno?

Doeddwn i chwaith ddim eisiau gwneud ffỳs am rywbeth yr oeddwn i'n teimlo oedd yn digwydd i bawb yn y math yma o waith, gan deimlo y dylen i fod yn ddigon cryf i ddelio efo'r math yma o brofiadau.

Dydy o ddim wedi achosi unrhyw loes yn y tymor hir i mi, ond wrth i fwy o fenywod siarad am eu profiadau fe ddechreuais i feddwl nad oedd hwn yn rhywbeth y dylen i ddisgwyl fel rhan o'r gwaith.

Pam ddylai gwleidyddion fy nhrin i yn wahanol i'r dynion sy'n gwneud yr un swydd â fi?

Hyder i eraill

Yn amlwg y cwestiwn cyntaf fydd pawb yn gofyn yw pwy oedd yn gyfrifol, ond dwi ddim am enwi neb.

Dwi ddim yn credu ei fod yn achos digon difrifol, a dwi'n credu bod canolbwyntio ar unigolion yn hytrach na'r gweithredoedd yn tynnu sylw oddi ar y darlun ehangach, a'r hyn sydd angen newid.

Achos os yw pobl wir o ddifri' ynglŷn â thaclo'r diwylliant sy'n gadael i hyn ddigwydd, yna mae'n rhaid i fenywod a dynion deimlo y gallen nhw fod yn agored ynglŷn â'u profiadau. Ond dwi hefyd yn deall yn llwyr pam bod cymaint yn amharod i wneud hynny.

Drwy siarad nawr dwi'n gobeithio y bydd o'n rhoi hyder i eraill siarad hefyd.

Achos os ydyn ni'n parhau i ddiystyru ymddygiad amhriodol gan ein gwleidyddion, yna 'dan ni'n atgyfnerthu'r diwylliant ble mae pobl mewn grym yn teimlo y gallen nhw ymddwyn fel y maen nhw eisiau.