Teyrnged teulu i fachgen fu farw yn Sir Conwy
- Cyhoeddwyd
Mae teulu bachgen 16 oed fu farw wedi parti Calan Gaeaf y penwythnos diwethaf wedi canmol ei bersonoliaeth a'i gymeriad "hoffus".
Bu farw Morgan Phillip Miller-Smith, o Gonwy, yn dilyn parti Calan Gaeaf yng Ngwytherin ger Llanrwst nos Sadwrn.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod ei farwolaeth yn gysylltiedig â chyffuriau, ac maen nhw wedi rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus o dabledi pinc, sgwâr oedd yn debyg i ecstasi.
Bu farw yn yr ysbyty wedi'r alwad i'r gwasanaethau brys am tua 01:10 fod bachgen wedi'i daro'n wael yn ystod y parti.
'Un mewn miliwn'
Mewn datganiad a gyhoeddwyd gan yr heddlu dywedodd y teulu :"Roedd 'Morgan' neu 'Morgs' yn berson hapus a hoffus.
"Roedd yn garedig ac yn byw ei fywyd yn llawn. Roedd yn ddoniol ac yn gwneud i bawb chwerthin.
"Roedd pawb yn ei adnabod am ei ffraethineb sydyn a'i hiwmor sych, ac roedd wrth ei fodd â theledu a threulio amser gyda ffrindiau.
"Yn y chweched dosbarth yn Ysgol Aberconwy roedd yn cael ei adnabod am fod yn glyfar iawn yn enwedig mewn mathemateg a gwyddoniaeth.
"Roedd e bob amser yn gwneud i chi wenu ac roedd yn un mewn miliwn.
"Diolch i bawb am eu negeseuon a'u cefnogaeth ac am ddangos parch i'n teulu yn y cyfnod trist yma. Fe fyddwn yn ddiolchgar am byth am gefnogaeth y gymuned."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2017