'Rheoliadau yn rhwystr i feithrinfa ger Llanbed'
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr meithrinfa ger Llanbed yng Ngheredigion yn dweud bod rheoliadau yn bygwth dyfodol ei busnes.
Ganol Hydref bu'n rhaid cau Meithrinfa'r Dyfodol yng Nghellan wedi i dân gynnau yn yr adeilad a'i ddifrodi'n sylweddol.
Bwriad rheolwr Meithrinfa'r Dyfodol, Dwynwen Davies, yw agor meithrinfa dros dro mewn neuadd gerllaw, ond dywedodd bod Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) wedi dweud wrthi y gallai gymryd wythnosau i ailgofrestru'r busnes mewn lleoliad arall.
Dywedodd AGGCC eu bod wedi ymateb yn fuan wedi'r tân ac wedi gweithio'n agos gyda pherchennog y feithrinfa i gofrestru'r busnes mewn adeilad arall.
Mae'r feithrinfa yn edrych ar ôl oddeutu 50 o blant bob dydd, gyda tua 200 ar y llyfrau, ac mae'n cyflogi 15 o bobl.
Amcangyfrifir fod cost y difrod a wnaed i'r feithrinfa gan y tân yn £1m.
Dywedodd Ms Davies bod rhieni wedi gorfod mynd i chwilio am ofal arall gan nad oedd modd iddi roi dyddiad pendant ar gyfer ailagor y feithrinfa.
"Fi di cal cyfarfod gyda'r rhieni i ddweud bod drysau'r feithrinfa ar gau, a mi fyddwn ni ar gau nes bod y gwaith adeiladu yn cael ei 'neud. A fyddwn ni'n ailagor o fewn y flwyddyn."
Ychwanegodd: "Mae' fe'n gymaint o golled i'r ardal achos ni'n darparu gofal drwy'r iaith Gymraeg gydag aelodau staff sydd wedi hyfforddi yn y maes gofal plant."
Dywedodd y cynghorydd Odwyn Davies ei bod yn anodd dod o hyd i ofal plant yn y rhan hon o'r sir, a bod y sefyllfa yn gorfodi rhieni i ddod o hyd i ofal ymhell o'u cartrefi.
Rhoi sylw mater i'r frys
Dywedodd AGGCC mai'r rheswm am yr oedi yw iddyn nhw gael gwybod gan y darparwr bod amgylchiadau wedi newid, ac nad oedden nhw wedi cael cais hyd yma i gofrestru man arall ar gyfer y feithrinfa.
Dywedodd llefarydd bod arolygydd wedi ymweld â'r safle newydd ar 23 Hydref a'r bwriad oedd bod mewn sefyllfa i agor ar 27 Hydref.
Mae'r datganiad hefyd yn dweud: "Mi fyddwn ni dal yn blaenoriaethu unrhyw gais gan y darparwr, pan fyddwn wedi'i dderbyn, er mwyn sicrhau bod gofal plant yn yr ardal yn parhau.
"Diogelwch a lles plant sy'n defnyddio ein gwasanaethau yw ein prif flaenoriaeth a mae'n rhaid i ni sicrhau bod yr adeilad newydd yn ddiogel ar gyfer y plant fydd yn dod yno."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Awst 2017