Stephen Crabb: Y Ceidwadwyr yn ymchwilio i honiadau
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb yn wynebu ymchwiliad gan y blaid Geidwadol wedi honiadau papur newydd ei fod wedi anfon negeseuon testun awgrymog at ddynes.
Yn ôl yr honiadau fe wnaeth AS Preseli Penfro wneud sylwadau tuag at ddynes 19 oed wnaeth ymgeisio am swydd yn ei swyddfa yn 2013.
Mae Mr Crabb wedi cael ei gyfeirio at y panel disgyblu newydd sydd wedi' sefydlu fel rhan o gôd ymddygiad y Ceidwadwyr.
Mae BBC Cymru wedi gofyn i Mr Crabb am sylw.
'Anffyddlondeb'
Yn ôl yr honiadau gafodd eu cyhoeddi yn y Telegraph a phapurau newydd eraill y penwythnos diwethaf, roedd wedi digwydd yn ystod tymor Mr Crabb fel Ysgrifennydd Cymru.
Yn yr erthygl mae Mr Crabb yn cyfaddef iddo anfon negeseuon ac iddo ddweud "rhai pethau echrydus" wrth ddynes ar ôl iddo ei chyfweld am swydd, a bod y neges yn y bôn yn dangos "elfennau o anffyddlondeb".
Dyma'r ail honiad o'r math yma yn erbyn Mr Crabb, wnaeth ymddiswyddo o'r cabinet fel yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau yn 2016.
Roedd Mr Crabb, sy'n ŵr priod ac yn Ysgrifennydd Cymru rhwng 2014 a 2016, yn un o'r rhai wnaeth geisio am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr pan gafodd Theresa May ei dewis.
Fe gyhoeddodd y Ceidwadwyr gôd ymddygiad newydd ar gyfer eu ASau a chynrychiolwyr etholedig eraill ddydd Gwener, wedi i gyfres o honiadau o aflonyddu rhywiol ddod i law.