Gofyn am ryddhau astudiaethau effaith Brexit ar Gymru

  • Cyhoeddwyd
cymru a'r UEFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi asesiadau o effaith bosib Brexit ar Gymru.

Mewn llythyr at y Prif Weinidog, gofynnodd arweinydd y blaid a yw Llywodraeth Cymru wedi derbyn unrhyw asesiadau gan swyddogion yn San Steffan.

Mae Leanne Wood yn ychwanegu y dylai'r llywodraeth gyhoeddi eu hastudiaeth ei hun o sut y bydd Brexit yn effeithio ar economi Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi cyhoeddi'r holl dystiolaeth sydd ar gael iddyn nhw, ac nad oedden nhw wedi derbyn adroddiadau Brexit gan Lywodraeth y DU.

'Cyn gynted â phosib'

Daw'r alwad wedi i Lafur ennill pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos ddiwethaf a oedd, i bob pwrpas, yn gorfodi Llywodraeth y DU i ryddhau eu hastudiaethau ar effaith economaidd Brexit.

Mae Llywodraeth San Steffan eisoes wedi cyhoeddi rhestr o'r astudiaethau, dolen allanol sy'n dangos yr effaith bosib o adael yr UE ar 58 o sectorau economaidd.

Roedd gweinidogion San Steffan wedi dadlau y byddai rhyddhau'r asesiadau yn tanseilio sefyllfa'r llywodraeth yn ystod y trafodaethau Brexit.

Ond yn dilyn y bleidlais fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Brexit, David Davis y byddai ei adran yn bod "mor agored ag y gallwn" wrth basio'r dogfennau i Bwyllgor Brexit Tŷ'r Cyffredin.

Ffynhonnell y llun, BBC/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Mae Leanne Wood wedi annog Carwyn Jones i rannu gwybodaeth am effaith Brexit mor fuan â phosib

Yr wythnos diwethaf, mewn ymateb i gwestiwn gan AS Plaid Cymru Jonathan Edwards, dywedodd y Gweinidog Brexit Robin Walker nad oedd asesiad penodol o'r effaith bosib ar economi Cymru gyfan yn bodoli ond yn hytrach bod yna "adroddiadau trawsbynciol, dolen allanol, yn seiliedig ar sectorau ar draws y Deyrnas Unedig gyfan".

Yn ei llythyr, mae Leanne Wood yn gofyn i Carwyn Jones "egluro a ydych chi'n gwybod am unrhyw ddadansoddiad gan Lywodraeth y DU o effaith Brexit ar economi Cymru", ac os felly, i "gyhoeddi'r wybodaeth hon cyn gynted â phosib".

"Mewn ysbryd democratiaeth, tryloywder a pholisïau sydd wedi eu seilio ar ffeithiau, rwy'n galw arnoch i gyhoeddi asesiad effaith Brexit Llywodraeth Cymru, sy'n amlinellu yn llawn barn eich gweinyddiaeth ar sut y bydd Brexit yn effeithio ar economi Cymru," ychwanegodd Ms Wood.

'Heb rannu'

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid yw Llywodraeth y DU wedi rhannu'r adroddiadau hyn gyda ni, ac rydyn ni'n credu'n gryf y dylen nhw gael eu cyhoeddi. Ar ôl y bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos diwethaf, does dim esgus dros oedi pellach.

"Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi bod yn glir beth yw ein blaenoriaethau a sut y byddem yn delio â'r agweddau positif a negyddol y mae Brexit yn eu cyflwyno. Mae'r Papur Gwyn a phapurau eraill yr ydym wedi'u cyhoeddi wedi'u seilio ar y dystiolaeth sydd ar gael."

Fore Llun fe fydd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns a'r Gweinidog Brexit Robin Walker yn rhoi tystiolaeth ar Fesur Gadael yr Undeb Ewropeaidd i bwyllgorau Brexit a chyfansoddiadol y Cynulliad.

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dadlau y byddai'r ddeddfwriaeth, sy'n bwriadu trosglwyddo deddfau'r UE i lyfr cyfreithiau'r DU, yn arwain at ddwyn pwerau oddi wrth y llywodraethau datganoledig.

Ar ôl cwrdd â Theresa May yn Downing Street yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd Carwyn Jones fod camau ymlaen wedi bod yn y trafodaethau ynghylch y mesur ond bod angen gweld y newidiadau i'r ddeddfwriaeth arfaethedig.

Bydd Mesur Gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei drafod yn Nhŷ'r Cyffredin ar 14 a 15 Tachwedd.

Ar ôl rhoi tystiolaeth yn y Senedd, bydd gweinidogion Llywodraeth y DU yn cwrdd â phanel o fusnesau, prifysgolion, sectorau gwirfoddol a ffermio sy'n rhan o 'banel arbenigol' Brexit Ysgrifennydd Cymru.