Ymchwilio i dân angheuol Llangamarch yn wynebu oedi

  • Cyhoeddwyd
David Cuthbertson
Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw i David Cuthbertson a phump o'i blant farw yn y tân

Mae'r heddlu'n dweud bod oedi ar y gwaith o ymchwilio i achos tân yn Llangamarch, a laddodd chwe aelod o'r un teulu.

Y gred yw i David Cuthbertson, 68, a phump o'i blant farw yn y digwyddiad ar 30 Hydref.

Roedd y plant rhwng pedair a 12 oed.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod presenoldeb yr heddlu yn Llangamarch yn debygol o barhau "am wythnosau, os nad misoedd".

'Proses araf'

Mewn cynhadledd i'r wasg yn Llandrindod, dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Tony Brown bod oedi ar y gwaith o ymchwilio oherwydd cyflwr ansefydlog y ffermdy.

"Mae'r gwaith o ymchwilio i achos y tan, a gwaith swyddogion fforensig wedi oedi am y tro," meddai.

"Mae hi'n broses araf, wrth i ni godi 260 tunnell o frics a morter gyda llaw yn unig.

"Mae swyddogion arbenigol o Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru yn cynorthwyo gyda'r gwaith."

Mae achos y tan yn parhau'n anesboniadwy.